Dewch i wybod mwy am Gredydau Amser Tempo a sut gallwn gydweithio mewn sesiwn holi ac ateb.
Ynglŷn â’r Digwyddiad hwn
Ein rhwydwaith cenedlaethol o Bartneriaid Cydnabyddiaeth yw’r hyn sy’n gwneud Credydau Amser Tempo yn unigryw. Mae ein holl Bartneriaid yn credu bod gwirfoddoli’n bwysig ac yn werthfawr, ac y dylai gwirfoddolwyr gael eu cydnabod am eu cyfraniad at ein cymunedau. Maen nhw’n gweithio gyda ni i roi’r gred hon ar waith. Mae gennym 750+ o bartneriaid cydnabyddiaeth yn ein rhwydwaith ar hyn o bryd.
Dewch i gael gwybod mwy am Gredydau Amser Tempo a sut gallwn gydweithio!
Pan fyddwch wedi cofrestru, byddwch yn cael neges e-bost sy’n cynnwys manylion mewngofnodi Teams (os nad ydych yn gallu defnyddio’r platfform hwn, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r wybodaeth isod). Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu ni ar 02920 566 132 neu drwy anfon neges e-bost at: support@timecredits.com.
Edrychwn ymlaen at gyfarfod â chi.
Mae 3 dyddiad ar gael:
Dydd Mawrth 16 Mawrth 11:00yb-11.30yb
Dydd Llun 12 Ebrill 15:00 – 15:30
Dydd Mercher 14 Ebrill 13:30 – 14:00
Dydd Mawrth 20 Ebrill 11:00 – 11:30