Lansio Credydau Amser Tempo Cymru
Ym mis Ebrill yn gynharach eleni, cawsom beth newyddion cyffrous am gynnydd y cais y gwnaethom ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, ar gyfer rhaglen genedlaethol sy’n torri tir newydd. Er mawr lawenydd i ni, mae Llywodraeth Cymru wedi ein darparu â grant 3 blynedd i ddatblygu’r Rhaglen Genedlaethol hon o Gredydau Amser Tempo, sy’n cwmpasu’r wlad i gyd.
Mae hyn yn newyddion gwych, gan ein bod yn ei ystyried yn gam sylweddol tuag at ffurfio dyngarwch Cymru, trwy fynd i’r afael â llawer o broblemau cymdeithasol yn uniongyrchol.  Bydd ein rhaglen yn ategu polisïau Llywodraeth Cymru ar leihau unigrwydd ac unigedd. Tra’n ein galluogi i gydnabod gwaith gwerthfawr gwirfoddolwyr, trwy eu darparu â Chredydau Amser Tempo, y gallant eu defnyddio ar rwydwaith cenedlaethol o Bartneriaid Cydnabod.
Yn anffodus, mae’r rhain yn ddwy broblem sy’n gymharol gyffredin yng nghymdeithas Cymru, gyda dros 25.3% o bobl hŷn yng Nghymru wedi nodi eu bod yn unig, a 26.9% wedi’u hynysu’n gymdeithasol (Astudiaeth Swyddogaeth Wybyddol a Heneiddio).
Er bod y problemau hyn yn dueddol o effeithio mwy ar bobl hŷn, mae’r ystadegau’n dangos bod cenedlaethau iau hefyd yn dueddol o deimlo’n unig. Mae data a gasglwyd gan Ystadegau Cymru yn datgan bod cymaint ag 20% o bobl rhwng 16 a 24 oed yn dioddef o unigrwydd.
Nid oes angen dweud, gallwch ddisgwyl i’r ffigyrau hyn godi’n sylweddol oherwydd y pandemig diweddar.
Sut y bydd ein rhaglen genedlaethol o fudd i gymunedau
Yn gyntaf oll, rydym yn eithriadol o ffodus i weithredu mewn gwlad sydd â thraddodiad mor ardderchog o undod. Fel y gwelwyd yn ystod y pandemig, mae’n gyffredin iawn gweld cymunedau Cymru a’u pobl yn barod i ddod at ei gilydd yn wyneb adfyd.
Credwn y bydd hyn yn cynorthwyo ein hymdrechion pan fyddwn yn cyflwyno ein Rhaglen Genedlaethol o Gredydau Amser Tempo i Gymru. Fel rhan o’n strategaeth, ein nod yw creu rhwydwaith ledled y wlad sy’n herio anghydraddoldeb yn uniongyrchol, trwy werthfawrogi cyfraniad pawb i’r gymuned.
Wrth wraidd y strategaeth mae proses drefnus, a grëwyd gyda’r bwriad o ddod â phobl yn agosach at ei gilydd, trwy eu hannog i gyfranogi mewn gweithgareddau dyngarol. Y gyfrinach yw meithrin cydlyniant cymunedol.
Dod â phobl ynghyd i gydweithredu a dibynnu ar ei gilydd yw ein harf fwyaf wrth frwydro yn erbyn anghydraddoldeb. Mae cymunedau’n teimlo’n unedig. Mae’r rhai mwyaf agored i niwed yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth. Mae pobl yn cael eu hysbrydoli.
Os ydych chi am wneud gwahaniaeth a helpu i newid bywydau pobl, yna ymunwch â’n rhwydwaith Credydau Amser Tempo Cymru heddiw. Anfonwch e-bost atom ar hello@wearetempo.org neu ffoniwch 029 2056 6132.  Gyda’n gilydd, gallwn ddechrau creu gwell cymdeithas.
Dod yn Llysgennad Credydau Amser Tempo
A ydych chi erioed wedi bod ag awydd cyfranogi rywsut a gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl? Wel dyma’ch cyfle chi!
Rydym ni am recriwtio llysgenhadon i helpu i godi proffil Credydau Amser Tempo mewn cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru. Ni waeth beth fo’ch cefndir, sgiliau a phrofiad, gallwch gyfranogi o hyd gyda Chredydau Amser Tempo, a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Yr unig ofynion mynediad yw brwdfrydedd a chymhelliant i helpu i oresgyn anghydraddoldeb yn ein cymdeithas.
Fel llysgennad, byddwch yn rhan o dîm llawn cymhelliant, a fydd yn ysbrydoli atebion creadigol i fynd i’r afael â rhai o’r sialensiau sy’n bodoli yn eich cymuned. Trwy gydol eich amser, byddwch yn derbyn yr holl gefnogaeth a hyfforddiant sydd eu hangen arnoch, i gyfuno’n effeithiol â’ch rôl benodol. Wrth gwrs, does dim rhaid dweud, byddwch yn cael pecyn llysgennad arbennig, ynghyd â chrys-t.
Mae hwn yn gyfle gwych i gynorthwyo cymunedau sydd wedi teimlo gwir ddinistr y coronafeirws. Does dim rhaid dweud, mae’r pandemig wedi chwyddo ystod eang o broblemau cymdeithasol a oedd yn bodoli eisoes. Nawr yn fwy nag erioed, mae angen eich help ar bobl a, gyda’n gilydd, gallwn ddechrau adfer y cymunedau mwyaf difreintiedig ar hyd a lled Cymru.
Rydym yn deall bod eich amser yn werthfawr, ac rydym yn gwerthfawrogi pob cyfraniad a wneir i effeithio ar gymunedau lleol. Gan mai swydd wirfoddol yw hon, gallwch roi cymaint neu gyn lleied o’ch amser ag y dymunwch.
Newid bywydau pobl a chael cydnabyddiaeth
Rydym yn gwerthfawrogi’r gwaith caled a’r aberth y mae pawb yn ei wneud wrth weithio gyda ni. Fel rhan o’n ffordd o ddweud diolch, rydym yn darparu Credydau Amser Tempo i bob gwirfoddolwr sy’n cofrestru.
Mae gennym rwydwaith eang o Bartneriaid Cydnabod ar hyd a lled Cymru, sy’n darparu cannoedd o gyfleoedd i chi wario’ch Credydau Amser Tempo ar amrywiaeth o weithgareddau a gwasanaethau. Mae’r broses gofrestru i ddod yn llysgennad yn gyflym ac yn hawdd!
Os ydych yn awyddus i wneud gwahaniaeth a helpu eich cymuned leol, anfonwch e-bost atom ar hello@wearetempo.org neu ffoniwch 029 2056 6132.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi’n fuan!