Does dim dwywaith bod y pandemig wedi cael effaith ddifrifol ar leoliadau celfyddydau ledled y Deyrnas Unedig, oherwydd bu’n rhaid i bob lleoliad gau ei ddrysau am fisoedd lawer, gan effeithio ar ddyfodol lleoliadau a’r diwydiant yn y Deyrnas Unedig.

Mae Credydau Amser Tempo bob amser yn awyddus i gefnogi amrywiaeth o ddiwydiannau, a hynny fwy fyth ar hyn o bryd. Dyna pam rydym wedi bod yn ymchwilio i sut gall Credydau Amser Tempo gynyddu mynediad at y celfyddydau mewn partneriaeth â’r ariannwr, Sefydliad Paul Hamlyn. Trwy ein hymchwil, rydym yn archwilio’r ffordd orau o gefnogi lleoliadau celfyddydau ar yr adeg anodd hon ac wrth symud ymlaen ar ôl COVID-19.

Mae ein hymchwil wedi amlygu rhai nodau ac amcanion yr hoffem eu cyflawni:

  • Rydym eisiau helpu pob lleoliad celfyddydau yn y Deyrnas Unedig i ddod o hyd i ffyrdd o wahodd pobl yn ôl i’w lleoliadau a defnyddio’r gwasanaethau a gynigir yn hyderus cyn gynted â phosibl.
  • Rydym eisiau cefnogi gwaith gwirfoddolwyr a fydd yn gweithio’n galed i helpu’r diwydiant celfyddydau i ailgychwyn.
  • Rydym eisiau helpu i gyflwyno gweithgareddau lleoliadau celfyddydau i gynulleidfaoedd newydd a denu cwsmeriaid newydd trwy hyrwyddo i’n rhwydweithiau.
  • Darparu rhywle i leoliadau celfyddydau gyfarfod a thrafod arferion gorau gyda sefydliadau celfyddydol eraill. Dyna pam rydym wedi trefnu fforwm ar-lein ar gyfer dydd Mercher 7 Ebrill y gallwch neilltuo lle arno yma.

Er mwyn helpu ein gwaith ymchwil a rhoi dealltwriaeth well i ni o sut gallwn gynorthwyo sefydliadau celfyddydol i ailgychwyn a helpu’r diwydiant i ffynnu ar ôl COVID-19, rydym yn gofyn i unrhyw leoliadau celfyddydau gwblhau’r arolwg byr hwn a fydd o gymorth mawr i ni. Gallwch gwblhau’r arolwg yma.