Mae J yn gwirfoddoli gyda gwasanaeth TAITH ar ôl bod yn gleient yn flaenorol a oedd yn cael trafferthion camddefnyddio sylweddau. Mae J yn helpu i gynnal y gwasanaeth cyfnewid nodwyddau a desg y dderbynfa. Mae’r ffaith bod J wedi camddefnyddio sylweddau yn y gorffennol yn golygu ei bod mewn sefyllfa ddelfrydol i helpu cleientiaid newydd sy’n defnyddio’r gwasanaeth am y tro cyntaf, ac mae’r gwasanaeth gryn dipyn yn well oherwydd bod J yn gwirfoddoli.

Mae J yn defnyddio ei Chredydau Amser Tempo i fynd â’i phlant allan, ac fe aethon nhw i ganolfan sglefrio iâ fel teulu am y tro cyntaf yn ddiweddar. O ganlyniad i ennill a defnyddio Credydau Amser Tempo, mae J yn teimlo fel mam well, yn fwy hyderus, ac yn barod i chwilio am gyflogaeth yn y dyfodol.