Cyn dod yn ofalwr amser llawn i’w wraig ar ôl iddi ddioddef strôc fawr, roedd Les yn gweithio fel Rheolwr Gweithgynhyrchu. Dechreuodd Les ymwneud â’r Gymdeithas Strôc gyntaf ar ôl i’w wraig gael ei gwahodd i helpu gyda’u grŵp rhandir, oherwydd dyna oedd un o’i phrif hobïau cyn y strôc. Aeth Les gyda hi a dysgodd am Gredydau Amser Tempo, ac fe’u gwelodd yn gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau na allai eu fforddio fel arfer, o ganlyniad i’w amgylchiadau personol.

Mae Les bellach yn ennill Credydau Amser Tempo mewn sawl ffordd, gan gynnwys:

• Cymorth gweinyddol yn ei swyddfa Cymdeithas Strôc leol, gan helpu i reoli Credydau Amser Tempo.
• Helpu i drefnu a chynnal y côr cymunedol unwaith y mis.
•  Helpu’n rheolaidd mewn digwyddiadau Byddwch yn Ymwybodol o’ch Pwysau Gwaed, yn ogystal ag yn y rhandir a’r caffi cyngor.

Sut mae Les yn defnyddio ei Gredydau Amser Tempo

Mae Les yn defnyddio ei Gredydau Amser Tempo yn bennaf i fynd i’r gampfa a mynd â’i deulu ar ddiwrnodau allan. Mae’n hoffi tretio ei ŵyr gyda gweithgareddau fel ardal chwarae dan do Puddleton Pirates yn Chorley neu ymweld â Thŵr Blackpool. Mae Les yn credu ei bod yn wych ei fod yn gallu defnyddio Credydau Amser Tempo yn y modd hwn oherwydd bu’n rhaid iddo roi’r gorau i’w waith i ofalu am ei wraig. Heb Gredydau Amser Tempo, ni fyddai wedi gallu fforddio’r gweithgareddau ei hun. Roedd anabledd gwraig Les yn ‘ergyd fawr [iddynt]’ yn ariannol ac yn gymdeithasol. Mae Credydau Amser Tempo yn golygu bod Les yn gallu parhau i fynd allan a gwneud pethau.


“Syniad a chyfle gwych sy’n fuddiol i bawb.”