Rydym yn gyffrous i gyhoeddi bod Credydau Amser Tempo yn mynd yn ddigidol! Mae ein model papur traddodiadol wedi bod yn llwyddiant mawr ers i’r syniad o Gredydau Amser Tempo gael ei lansio. Ond, ers hynny, rydym wedi chwilio am ffyrdd o foderneiddio a gwneud bywyd yn haws i’n gwirfoddolwyr a’n cwsmeriaid.

Yn syml, daeth yr ysbrydoliaeth i newid i fformat digidol o ddeall anghenion ein gwirfoddolwyr a’n cwsmeriaid a chwilio am y ffordd orau o’u bodloni. Rydym yn chwilio am ffyrdd arloesol o wella profiad defnyddwyr Credydau Amser Tempo bob dydd. Cyflawnir hyn trwy weithio’n agos gyda’n holl randdeiliaid a gwrando ar eu hadborth.

Ac felly, pa fuddion y gallwch chi eu disgwyl o’n gwasanaeth ar-lein newydd? I ddechrau, mae’n golygu bod defnyddio a rheoli Credydau Amser yn gyflymach ac yn haws o lawer, sy’n beth da i bawb. Bydd yr holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen i ddefnyddio Credydau Amser ar gael mewn un man, yn syth ar flaenau’ch bysedd. Rydym wedi dylunio’r platfform newydd i ddarparu’r profiad gorau posibl i chi, gan roi ffordd syml a rhwydd i chi wirio, rhoi, derbyn neu gyfnewid Credydau Amser Tempo. Rydym wedi gweithio ar ein SEO (optimeiddio peiriannau chwilio) ac mae’n hawdd dod o hyd i ni ar-lein trwy deipio Credydau Amser Tempo ym mlwch chwilio Google.

A ninnau’n byw yn yr oes ddigidol, rydym wedi darganfod mai un o asedau mwyaf gwerthfawr unrhyw sefydliad yw data. Trwy ein system ar-lein newydd, gallwn gael darlun cyflawn o sut mae pobl yn ennill a chyfnewid eu Credydau Amser Tempo, a defnyddio’r ddealltwriaeth hon i sbarduno mwy o effaith ar gyfer cymunedau ac unigolion.

Gan ein bod yn byw yng nghanol pandemig ar hyn o bryd, mae ein platfform ar-lein newydd yn golygu y gallwn barhau i sicrhau bod Credydau Amser Tempo ar gael i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i gynorthwyo eu cymunedau.

Hyd yma, mae’r adborth gan bawb sydd wedi defnyddio Credydau Amser Tempo digidol wedi bod yn gadarnhaol iawn. Bwriadwn gyflwyno’r fersiwn ddigidol newydd o Gredydau Amser Tempo i’n holl gwsmeriaid presennol erbyn mis Ebrill 2021.

Peidiwch â phoeni os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd! Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau na fydd neb yn cael ei eithrio a – gallwch gofrestru i ddefnyddio Credydau Amser Tempo digidol o hyd gan ddefnyddio cerdyn aelodaeth.