Dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched
Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched flwyddyn yma rydym yn dathlu’r cyfraniad pwysig y mae merched yn ei wneud yn y sector gwirfoddol. Ar ôl cynnal ymchwil marchnad allanol yn 2020 fe wnaethom sylwi ar ffigwr penodol, sef bod cyfran fawr o wirfoddolwyr sy’n ennill Credydau Amser Tempo yn fenywod.
Wedi i ni lansio ein platfform Credydau Amser ar-lein newydd yn ddiweddar, fe hefyd sylwon fod cyfran fawr o wirfoddolwyr a gofrestrodd yn fenywaidd. Ers i ni lansio, rydym wedi cofrestru 1915 o wirfoddolwyr gyda 71% ohonynt yn ferched. Dangosai hyn pa mor bwysig ac ymroddedig yw merched mewn cadw’r sector gwirfoddol yn gweithredu yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Y rhaniad genedlaethol rhwng rhyw gwirfoddolwyr yw bod 60% yn fenywaidd a 40% yn wrywaidd (NCVO). Mae gan Tempo a’r 1,000 o sefydliadau gwirfoddol rydyn ni’n gweithio gyda nhw, 71% o wirfoddolwyr benywaidd a 2% o gymunedau trawsryweddol a di-ddeuaidd. Dangosai hyn y cysylltiad sydd gan fenywod â’r grwpiau anoddaf eu cyrraedd a mwy gwaharddedig mewn cymdeithas, y mae Tempo wedi canolbwyntio arnynt. Mae gwaith gan Brif Economegydd Banc Lloegr yn awgrymu bod y gwerth mewn termau £ yn hyd at £ 234 biliwn.
Dywedodd Mark Froud, Prif Swyddog Gweithredol Tempo, ‘Mae hi’n ofnadwy o bwysig i beidio tanbrisio effaith gwirfoddolwyr benywaidd. Maent wedi ein helpu trwy’r flwyddyn ddiwethaf. Yn bwysicach fyth, nhw yw arwresau di-glod ein sectorau gwirfoddol a chymunedol. â€
Mae gwirfoddolwyr sydd yn rhan o gynlluniau Credydau Amser Tempo hefyd yn fwy tebygol o fod yn wirfoddolwyr newydd. Doedd 10% o bobl erioed wedi gwirfoddoli orblaen, ac roedd 15% wedi gwirfoddoli yn anaml yn y gorffennol.
Yn gynharach yn y flwyddwyn, croesawant Siddi Triviedi i’n bwrdd ymddiriedolwyr fel ail aelod benywaidd y bwrdd, ynghyd a’n aelod sefydlog, Anna Lewis.
Sefydlodd Siddhi gwmni technoleg newydd, Beyond Identity, wrth iddi agosáu at ei 50au. Y llynedd, sefydlodd hefyd fenter cymedithasol o’r enw, Prosiect BIBA a ganolbwyntiodd ar gynyddu nifer y merched a menywod sydd yn dewis gyrfa mewn technoleg, gan mai dim ond 3% o ferched sydd yn ei raddio fel eu dewis cyntaf ar hyn o bryd.
Cychwynodd ei gyrfa mewn technoleg yn organig wedi gyrfa mewn gwaith fferyllol ac yna ymgynghoriaeth busnes a drawsnewidiodd i drawsnewid digidol. Meddai Siddhi – “Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn gwasanaethu fel diwrnod o undod byd-eang lle gall menywod ynghyd â hyrwyddwyr gwrywaidd, dynnu ysbrydoliaeth oddi wrth ei gilydd yn ogystal â dathlu llwyddiant modelau rôl benywaidd. Bob blwyddyn mae’r ymgyrchoedd hyn yn trosi i ferched a bechgyn yn yr ysgol i ddechrau’r broses o newid meddyliau yn ifanc, sydd yna’n herio’r system batriarchaidd oesol sydd wedi’i hymgorffori yn y gymdeithas. Mae’r thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched #ChooseToChallenge yn nodi agenda clir i bob dyn a dynes sefyll i fyny i anghydraddoldebau y mae merched yn eu hwynebu yn broffesiynol, p’un a yw’n anghydraddoldeb o ran cyflog, rhagfarn ar sail rhyw neu ddyrchafiad. Mae sylfaenwyr a arweinir gan fenywod yn wynebu heriau enfawr wrth gael gafael ar gyllid gyda dim ond 2.3% o’r busnesau newydd a arweinir gan fenywod yn cael mynediad at gyllid VC. ”
Neges Siddhi i bob merch yn fyd-eang – “Rwy’n dewis sialensu ( #choosetochallenge) meddyliau menywod i ddod yn fwy di-ofn wrth lunio eu gyrfaoedd mewn technoleg waeth beth fo’u hoedran na’u cefndir!”