Lansio Gwefan a Platfform Ar-lein Newydd Tempo yn y Gymraeg

Mae Credydau Amser Tempo yn falch o gyhoeddi ein platfform ar-lein Credydau Amser Tempo ac ein gwefan yn y Gymraeg. Bydd hyn yn galluogi i Gredydau Amser Tempo gefnogi dinesyddion, cymunedau a busnesau Cymraeg i ymgysylltu â ni yn eu hiaith dewisol. Gwelir ein wefan newydd Cymraeg yma. Gallwch hefyd weld ein wefan yn y Gymraeg yma.

Wedi’i sefydlu dros 10 mlynedd yn ôl yng Nghymoedd De Cymru, mae ein model ni yn gweithio gyda gwirfoddolwyr yn derbyn Credydau Amser Tempo am yr amser maent yn ei roi i’w cymuned trwy sefydliadau lleol. Gellir yna defnyddio’r rhain gyda’n rhwydwaith o bartneriaid cydnabod i ymweld ag atyniadau lleol a chenedlaethol, cymryd rhan mewn gweithgareddau fel sesiynau campfa neu ad-dalu talebau ar gyfer siopa ac adloniant.

Rydym bellach yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Credydau Amser Tempo yng Nghymru. Ein nod yw adeiladu rhwydwaith ledled y wlad sy’n herio anghydraddoldeb trwy werthfawrogi cyfraniad pawb i’w cymuned, a thrwy hynny creu cymdeithas decach i bawb. Byddwn yn gwneud hyn trwy weithio gyda phobl a sefydliadau lleol i ddefnyddio Credydau Amser Tempo i gynyddu gwirfoddoli, ymgysylltu a chydlyniant a mynd i’r afael ag effeithiau tlodi. Darganfyddwch fwy am y rhaglen yma!

Dywedodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg – “Rwyf wrth fy modd i weld platform Tempo yn gwbl hygyrch i siaradwyr yr iaith Gymraeg. Er mwyn i wirfoddoli fod yn gwbl gynhwysol, mae angen i bobl allu cymryd rhan yn yr iaith o’u dewis ac mae hyn hyd yn oed yn bwysicach gan fod technoleg yn chwarae rhan fwyfwy yn ein bywydau. Rwy’n falch bod Tempo wedi cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg mewn cymunedau ledled Cymru ac yn falch bod fy swyddogion wedi gallu cwrdd â Tempo yn gynnar yn y prosiect i ddarparu cefnogaeth a chyngor gyda’u polisi a’u datblygiad Cymraeg.”

Dywedodd Mark Froud, Prif Swyddog Gweithredol Tempo – “Mae cyfieithu ein platfform ar-lein newydd i’r Gymraeg yn gyflawniad gwych a fydd yn ein helpu i gyflawni ein nodau, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, i alluogi mwy o bobl Cymru i gymryd rhan mewn gwirfoddoli yng Nghymru sydd yn ei dro yn cefnogi eu lles, ansawdd eu bywyd a’u sgiliau cynyddol a phrofiadau o ganlyniad i ennill a defnyddio Credydau Amser Tempo.”

Os hoffech wybod mwy neu os oes gennych gwestiynau pellach am ymuno â Credydau Amser Tempo, os ydych yn wirfoddolwr neu yn sefydliad, cysylltwch â ni yma.