Celf Yfory gyda Chyngor Caerdydd
Fe welwyd cynnifer o’r pethau rydym yn eu caru yn cael eu difa llynedd oherwydd y pandemig. Naill ai chwarae pêl droed neu rygbi gyda’ch clwb lleol, mynychu’r theatr, ymweld ag Amgueddfa Caerdydd, cymysgu gyda ffrindiau o gwmpas canol y Ddinas neu mynd am dro yn un o’r parciau yma yng Nghaerdydd.
Beth yw Celf Yfory?
Prosiect ar y cyd rhwng Cyngor Dinas Caerdydd a Credydau Amser Tempo Cymru yw Celf Yfory i ddathlu yr hyn oll ryda ni wrth ein boddau yn ei wneud ac a gafwyd ei effeithio gan y pandemig llynedd. Ryda ni’n gofyn i drigolion Caerdydd gynnig darluniau, lluniau, ffotograffiau neu farddoniaeth wedi eu themau o amgylch digwyddiadau a gweithgareddau rydych chi’n edrych mlaen atynt ar ddiwedd y cyfnod clo.
Sut fedrwch chi gymeryd rhan?
Fe gaiff eich cyflwyniadau eu derbyn rhwng Mawrth yr 10fed a Mawrth 31ain. I gymeryd rhan, llenwch yr holiadur isod ac yna uwchlwythwch eich cyflwyniad yma. Mi fydd y cyflwyniadau yn cael eu golygu a’u rhoi mewn casgliad ar fideo a fydd yn cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol i ddangos beth mae trigolion Caerdydd yn edrych ymlaen i’w wneud yn y dyfodol.
Beth yw’r wobr?
Am eich ymdrechion, mae gennych yr opsiwn i dderbyn 5 Credyd Amser Tempo a fedrir eu defnyddio gydag amrywiaeth o weithgareddau lleol a chenedlaethol ac mi fydd rhain yn eich galluogi i fwynhau yr hyn rydych chi wedi ei golli ers cychwyn y pandemig. Mae gennym ystod eang o bartneriaid cydnabyddiaeth yn ein rhwydwaith, gan gynnwys camfannau, dosbarthiadau lleol neu diwrnod allan yn un o’r atyniadau, digwyddiadau chwaraeon neu amgueddfaoedd a welir yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â libraryevents@cardiff.gov.uk neu os oes gennych gwestiynau am sut i ennill neu cynnig Credydau Amser Tempo yn y dyfodol medrwch gysylltu gyda ni yma.