Rydym yn hynod gyffrous i gyhoeddi ein partneriaeth diweddaraf gyda darparwr bwyd moesegol, Pale Green Dot. Mae’n wych cael Pale Green Dot fel rhan o’n rhwydwaith fel ein partner cydnabyddiaeth parhaol cyntaf sydd yn cynnig siopa bwyd i wirfoddolwyr drwy ddarparu bocsys o ffrwythau a llysiau ffresh i’w drysau. Rydym yn falch i weithio ynghyd a chwmni gyda safonau moesegol uchel ac fel ni, yn alinio eu hamcanion busnes â helpu pobl eraill.

Yn y flwyddyn ddwythaf ers i’r cyfnod cloi ddod yn ran normal o fywyd, mae gwasanaethau darparu bwyd wedi dod yn hanfodol i ni gyd. Yn darparu bocsys llysiau ar draws De Ddwyrain Lloegr dros chwech diwrnod yr wythnos, mae staff Pale Green Dot yn gwneud gwaith ardderchod, yn sicrhau fod eu cwsmer i gyd gyda mynediad i ffrwythau a llysiau ffresh fel y gallent aros gartref yn ddiogel.

“Mae ysbrydoli iechyd da a rhoi yn ôl i gymunedau ar flaen y gad yng nghenhadaeth Pale Green Dot gyda Tempo. Rydyn ni wrth ein boddau i fod yn bartner gyda Tempo i gynnig ein cynnyrch ffres anhygoel i’w gwirfoddolwyr yn gyfnewid am eu Credydau Amser Tempo caled. Trwy ddefnyddio eich Credydau Amser Tempo gyda ni rydych chi’n cefnogi ffermwyr lleol ac yn cyflawni’ch nodau cynaliadwyedd yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol gyda ni a gyda Tempo.”

Diolch enfawr i Pale Green Dot am gydnabod cyfraniad gwirfoddolwyr, a chroeso i’n rhwydwaith!

 

Beth sy’n gwneud Pale Green Dot yn unigryw?

Mae’n hawdd! Maent yn canolbwyntio ar fod yn gwmni cynnyrch ffresh gan weithio’n agos at y ddolen fwyd a chefnogi’r bobl sy’n cyflenwi’r cynnyrch. Maent yn gweithio gyda thyfwyr i ddod o hyd i ansawdd bwytai, cynnyrch tymhorol a lleol sydd wedi’i dyfu gan ddefnyddio dulliau cynaliadwy.

 

Cynnyrch o ffynonellau lleol

Maent yn gweithio gyda ffermwyr yn Ne Ddwyrain Lloegr i ffynonellu cynnyrch ffresh i lewni eu bocsys.

 

Wedi ei ffermio yn gynhaliadwy
Gweithio gyda tyfwyr a chynhyrchwyr bychan a lleol i ffynonellu ffrwythau, llysiau, eitemau llaeth, a chig moesegol.

 

Dim plastig
Gofalu am yr amgylchedd trwy ymdrechu i fod yn un defnydd a heb blastig ar draws eu holl weithrediadau.

 

Sylfaen Pale Green Dot
Mae Sylfaen Pale Green Dot wedi ymrwymo i ddod yn arweinydd diwydiant yn y sector cynaliadwyedd ac rydym yn falch o fod yn bartner cyntaf y sefydliad hwn sydd fel ni, eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Mae Pale Green Dot yn gweithio gyda sefydliadau dielw ac sector elusennol gyda’r nod o ddatblygu dealltwriaeth o’r effaith y mae’r diwydiant bwyd yn ei chael ar yr amgylchedd ac iechyd y cyhoedd. Trwy ymgyrchoedd, hyrwyddiadau a digwyddiadau, maen nhw’n gobeithio dod â chogyddion, tyfwyr, a’r gymuned fwyd ehangach at ei gilydd i gynyddu ymwybyddiaeth o’r mater dan sylw a gwneud y diwydiant yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd.

 

Sut alla i gymryd rhan a beth sydd ar gael?
Rydym yn falch iawn o’u cael yn rhan o’n rhwydwaith ac yn gallu cynnig eu gwasanaethau i wirfoddolwyr Credydau Amser Tempo, gyda llawer ohonynt yn brysur yn gwirfoddoli ac yn helpu eu cymuned ac nad oes ganddynt amser i gyrraedd y siopau. I ddathlu’r bartneriaeth newydd bydd gostyngiad o 20% i wirfoddolwyr sy’n cofrestru ar gyfer tanysgrifiad i’w gwasanaeth dosbarthu gyda’u Credydau Amser Tempo.

Gallwch weld y cynnig yma. Neu os hoffech ddarganfod mwy am y cwmni, gwelwch eu wefan yma.

Y gostyngiad sy’n cael ei gynnig yw 20%, yn gyfnewid am 3 Credyd Amser. Gellir defnyddio hwn mewn blwch wythnosol, blwch bob yn ail wythnos neu ddim ond blychau unwaith ac am byth. Mae Pale Green Dot yn danfon i Lundain a rhai ardaloedd yn y De Ddwyrain. Edrychwch ar eu gwefan am fwy o fanylion