Credydau Amser

Wedi'i bweru gan Gymunedau.

Smiling man wearing a black Adidas hoodie holding a London postcard inside a building with cartoon cat and dog decorations on the wall.

Beth yw Credydau Amser Tempo?

Mae Credydau Amser yn cydnabod yr amser y mae pobl yn ei roi i gryfhau eu cymunedau. Wrth i bobl gymryd rhan, maent yn ennill Credydau Amser y gallant eu defnyddio ar weithgareddau a phrofiadau y maent yn eu mwynhau - o ddosbarthiadau lleol i ddiwrnodau allan i'r teulu. Mae'n ffordd syml a phwerus o ddweud “diolch” ac annog rhagor o bobl i gymryd rhan, cysylltu, a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Group of children and an adult outdoors gathering and measuring herbs or seeds at a wooden table with jars and scoops.Group of eleven adults posing indoors on and around two brown leather sofas with colorful artwork on blue walls in the background.Children and an adult doing an outdoor herb or plant identification activity with jars and samples on a wooden picnic table.Group of eight diverse women standing outdoors in front of large potted plants, smiling at the camera.

Sut mae’n gweithio

1. Cofrestru

Crëwch eich cyfrif am ddim neu cysylltwch â Thîm Tempo i ddechrau eich taith wirfoddoli.

2. Dod o hyd i gyfleoedd

Archwiliwch gyfleoedd gwirfoddoli lleol ar ein platfform. Dewiswch rywbeth sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau neu'ch sgiliau a dechreuwch roi o'ch amser.

3. Dewch o Hyd i Gyfleoedd

Bob tro y byddwch chi'n gwirfoddoli, byddwch chi'n ennill Credydau Amser Tempo fel diolch. Byddant yn ymddangos yn awtomatig yn eich cyfrif.


4. Defnyddio Eich Credydau Amser

Mwynhewch weithgareddau, dysgu, neu ddigwyddiadau gyda'n partneriaid busnes - dyma ein ffordd ni o ddweud diolch am wneud gwahaniaeth.

5. Ymunwch â Mudiad Tempo

Crëwch eich cyfrif am ddim neu gysylltwch gyda Thîm Tempo i ddechrau ar eich taith wirfoddoli.

Ble mae defnyddio credydau amser?

Gallwch ddefnyddio eich Credydau Amser i gymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau a gynigir gan ein Partneriaid Cydnabyddiaeth lleol a chenedlaethol - o ddysgu rhywbeth newydd i fwynhau diwrnod allan i'r teulu.

Ydych chi am weld yrhestr lawn o leoedd lle gallwch chi adbrynu eich Credydau Amser?

Two elderly men sitting at a table playing with small LEGO minifigures and smiling.

Pam Tempo?

Mae Tempo yn helpu pobl i deimlo'n gysylltiedig, yn hyderus a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Rydym yn gweithio gydag elusennau, comisiynwyr, gwirfoddolwyr a busnesau i greu rhagor o gyfleoedd ar gyfer cyfranogiad ac i gydnabod yr amser a roddir gan gymunedau ym mhobman.

Ein cyllidwyr anhygoel

Ymunwch â'r gymuned Credydau Amser

Dechreuwch roi o'ch amser, cysylltwch â sefydliadau lleol a darganfod cyfleoedd newydd i gymryd rhan.