Mae rhaglen Credydau Amser Tempo Bexley wedi bod ar waith ers 2017 fel cynllun peilot a gomisiynwyd gan Orbit Housing, yn canolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth gyda’r nodau allweddol o wella iechyd a lles preswylwyr a chynyddu cyfranogiad ac ymgysylltiad cymunedol. Yn dilyn ymlaen o hyn, ailgomisiynwyd y rhaglen i gynnwys pob rhan o Bexley ac, yn fwy diweddar, i weithio gyda sefydliadau bach ar lawr gwlad a chynyddu cyfranogiad preswylwyr. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae 23 o grwpiau cymunedol wedi cymryd 401 o bobl ymlaen sy’n gwirfoddoli eu hamser tuag at weithgareddau rheolaidd ac untro. Maen nhw wedi ennill 12,258 o Gredydau Amser Tempo am amser a wirfoddolwyd ac wedi defnyddio 1,477 o Gredydau Amser Tempo ar wasanaethau, gweithgareddau a phrofiadau. Dywedodd 76% o unigolion a arolygwyd fod Credydau Amser Tempo wedi helpu i wella eu hiechyd a’u lles, dywedodd 57% o aelodau fod ansawdd eu bywyd wedi gwella, roedd 46% yn teimlo’n fwy hyderus ac roedd 42% yn teimlo’n llai unig ac ar wahân yn gymdeithasol. Soniodd sefydliadau a oedd yn ymwneud â’r rhaglen am fuddion hefyd; roedd 66% o sefydliadau’n teimlo eu bod yn gallu cyrraedd mwy o bobl yr oedd arnynt angen eu gwasanaethau, gallai 55% ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl roi eu hamser, roedd 79% o sefydliadau’n teimlo’n fwy cynaliadwy gan fod y rhaglen yn helpu i arbed arian iddynt a gallai 66% hyrwyddo eu gwaith i fwy o bobl.