YMGYSYLLTU Â DEFNYDDWYR GWASANAETH:

Mae Neuadd Cosgarne yn cynnig llety a chymorth i bobl ddigartref yng Nghernyw. Cyflwynwyd Credydau Amser Tempo fel offeryn i annog y preswylwyr i ymgysylltu â’r gwasanaeth a’r gymuned ehangach, yn ogystal â diolch i’r gwirfoddolwyr.

4O O BRESWYLWYR.  400 O ORIAU O WEITHGAREDDAU

Hyd yma, mae 40 o breswylwyr wedi rhoi dros 400 o oriau i’r gwasanaeth neu drwy wirfoddoli gyda phrosiectau cymunedol.
Mae hyder a hunan-barch y preswylwyr wedi cynyddu ac maen nhw wedi rhoi cynnig ar lawer o bethau newydd diolch i Gredydau Amser Tempo.

YR EFFAITH

• Mwy o wirfoddoli: Mae preswylwyr yn y cynllun yn rhoi mwy o amser, yn ogystal â helpu pobl eraill yn y llety.
• Gwell cysylltiadau â’r gymuned:
Mae preswylwyr wedi ennill Credydau Amser Tempo trwy ddigwyddiadau fel casglu sbwriel a glanhau traethau, gan wneud iddynt deimlo’n agosach i’r gymuned.
• Mwy o weithgareddau cymunedol: Mae preswylwyr wedi cronni eu Credydau Amser Tempo i gael gweithgareddau grŵp ychwanegol, gan gynnwys teithiau i atyniadau lleol.
• Mwy o annibyniaeth: Mae preswylwyr wedi defnyddio Credydau Amser Tempo ar weithgareddau fel nofio a mynd i’r gampfa a’r sinema, gan helpu i wella eu hiechyd meddwl a rhoi ymdeimlad o bwrpas a pherthyn iddynt.

“Mae helpu’r preswylwyr i wneud gwaith gwirfoddol a gallu eu cydnabod a’u gwobrwyo yn rhoi hwb enfawr i’w hyder, eu hunan-barch a’u lles”.