Mae Cyngor Chorley wedi partneru â Chredydau Amser Tempo ers bron i 10 mlynedd bellach, a mae’r bartneriaeth hyd yma wedi cael effaith enfawr ar y gymuned leol, wedi cynyddu y nifer o bobl sydd yn rhoi eu hamser ar draws Chorley, wedi ehangu cyfranogiad cymunedol a busnesau cysylltiedig a grwpiau cymunedol ledled yr ardal.
Fel cyngor, roeddent am gydnabod yr effaith sylweddol y mae gwirfoddoli yn ei gael yn lleol ac ymgysylltu â mwy o bobl i gymryd rhan mewn gwirfoddoli. Roedd y cyngor eisiau sicrhau bod Credydau Amser Tempo yn hygyrch i grwpiau cymunedol ledled y fwrdeistref a sicrhau bod y cyfraniad y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud yn cael ei gydnabod. Mae pobl sy’n ennill Credydau Amser Tempo yn Chorley wedi mwynhau eu defnyddio ledled Swydd Gaerhirfryn yn ogystal ag yng Nghymru, Llundain a Cernyw. Nododd 81% o’r cyfranogwyr well ansawdd bywyd, nododd 53% eu bod yn teimlo’n fwy hyderus, 59% yn teimlo’n fwy abl i gyfrannu at y gymuned a 59% wedi datblygu ffrindiau neu gydnabod newydd.