Partner Cydnabyddedig newydd sbon yn lansio ar ddydd Gwener 27 Awst – Sesiynau llesiant anghyfyngedig.

Weithiau mae bywyd yn gallu bod yn ingol ac mae angen i ni ddysgu sut mae ymlacio, ond rydym hefyd yn gwybod ei bod yn gallu bod yn anodd i rai pobl, felly gadewch i ni gyflwyno ein partner cydnabyddiaeth i’ch helpu gyda gwneud hynny!

Mwynhewch sesiynau llesiant ddwywaith y diwrnod gyda’ch Credydau Amser Tempo gyda Rhwydwaith I Am Loving Kindness.

Ymunwch â Rhwydwaith iamlovingkindness i gymryd rhan yn eu sesiynau byw, ysgogiadol rhithwir a llesiant, wedi eu ffrydio’n fyw fesul zoom yn uniongyrchol i gysur eich cartref o unrhyw le yn y byd. Efallai y byddwch yn dewis cymryd rhan gyda sesiwn foreol, i godi eich ysbryd, ffocysu ar eich meddwl a lleihau eich lefelau straen, neu ymuno â sesiwn yr hwyr i dawelu eich meddwl ar ol diwrnod hir. Mae’r sesiynau’n para oddeutu 30 munud a gallwch ddewis ddiffodd eich camera a gwrando’n unig os mae hynny sydd orau gennych.

Mae nifer o bobl wedi darganfod eu hun yn teimlo’n fwy unig, ynysig neu’n bryderus yn ystod Covid-19 a chrewyd iamlovingkindness fel ffordd o ddelio â heriau bywyd a dod â chysylltiad ystyrlon i’ch diwrnod.

“Mae iamlovingkindnessnetwork yn gyffrous cael bod yn Bartner Cydnabyddiaeth Credyd Amser Tempo. Mae Credydau Amser Tempo am adnabod cyfraniadau anhygoel pobl yn eu hamser rhydd wrth iddynt roi o’u hamser i’w cymunedau a gwobrwyo’r ymdrechion hynod hynny. Mae’n ein gwneud mor hapus i gefnogi’r bartneriaeth ac ni fedrwn aros i’r bobl hyfryd yma i elwa o’n sesiynau grŵp rhithwir beunyddiol lovingkindness a gobeithiwn y byddant yn mwynhau ein gwasanaeth am nifer o flynyddoedd i ddod.” Christi, Sylfaenydd, iamlovingkindessnetwork.

Am ragor o wybodaeth?

Gallwch fod yn rhan o gymuned iamlovingkindness am 3 Credyd Amser Tempo, yn cynnig aelodaeth anghyfyngedig a 60+ sesiwn. Cliciwch isod i ddarganfod mwy neu i ddefnyddio eich Credydau Amser ar y cyfle hwn.

Cliciwch yma am wybodaeth ar sut mae defnyddio partner cydnabyddiaeth neu ymwelwch â’u gwefan yma. (Nodwch fod y cynnig hwn yn lansio ar ddydd Gwener 27ain Awst 2021)

Os yr ydych yn sefydliad ac yr hoffech gymryd rhan yn ein rhwydwaith cysylltwch â Hello@wearetempo.org am sgwrs gyda thîm Tempo.