Partner cydnabyddiaeth y mis hwn mewn ffocws yw Plantasia Abertawe! Dysgwch sut rydyn ni’n helpu’r atyniad twristaidd poblogaidd hwn i groesawu cwsmeriaid newydd a hyrwyddo eu sefydliad wrth gydnabod y cyfraniad y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i gymdeithas.

Plantasia yw un o’r atyniadau twristiaeth mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Wedi’i leoli yn Abertawe, mae’n gartref i anifeiliaid a phlanhigion trofannol o grocodeilod, parotiaid a madfallod. Dewch i archwilio’r byd hudolus a bywiog hwn! Cropiwch trwy’r isdyfiant, dewch wyneb yn wyneb â chrocodeilod a mentrwch ddringo’n uchel yn y canopi gyda’r parotiaid! Ar gyfer y teulu oll, ehangwch eich dychymyg yn y profiad rhyngweithiol, a suddwch i’r byd trofannol.

Gwnaethom siarad ag Anthony Williams, Rheolwr Atyniadau yn Plantasia am weithio mewn partneriaeth â Chredydau Amser Tempo i gydnabod gwirfoddolwyr.

 

Sut wnaethoch chi ddod yn rhan o Tempo gyntaf?

Yn ystod y cyfnod hwnnw, roeddwn yn rheoli Profiad y Bathdy Brenhinol a daeth Ben ataf. Pan wnes i symud i Plantasia, fe wnaeth Ben gysylltu â mi, ac fe wnaethon ni gofrestru! Yn bendant, mae wedi bod yn werth chweil ar gyfer pobl a’u cymunedau, felly roeddwn ni ond yn hapus i gymryd rhan.

 

Beth oedd eich gofidion neu bryderon pan ddechreuoch chi’n gyntaf? Beth fu’r profiad go iawn?

Nid oedd gennyf unrhyw bryderon go iawn – rydym yn cynnig rhywbeth yn ol i wobrwyo’r gwaith maent yn eu gwneud. Mae’r rhain yn llefydd na fyddent fel arfer yn ymweld â nhw. Fe wnes i gwestiynu ‘a fyddai gormod o bobl yn ymweld â’r safle?’ Er hynny, oherwydd ein bod ni’n gallu rheoli hynny o fewn ein cynnig, o’n safbwynt ninnau mae bob amser wedi bod yn hawdd ei reoli, ac nid ydym wedi troi neb i ffwrdd am wn i. Yn gyffredinol, mae pobl yn ymweld, maent yn cael profiad da, maent yn siarad yn bositif am eu profiad ac efallai eu bod yn gwario arian ychwanegol yn y siop anrhegion, felly efallai cewch ychydig o gyllid. I ddweud y gwir, mae’r cyfan wedi bod yn dda!

 

A fu unrhyw waith y mae Credydau Tempo neu Amser wedi eich helpu ag ef?

I ni, mae Tempo yn codi proffil Plantasia fel lleoliad, felly rydym yn elwa yn yr ystyr hwnnw wrth iddo ddod â chynulleidfaoedd newydd i mewn. Mae’r cyfathrebu bob amser wedi bod yn wych, a bu’n ddefnyddiol codi ymwybyddiaeth Plantasia i gynulleidfaoedd newydd.

 

A oes unrhyw bethau da wedi digwydd nad oeddech chi’n eu disgwyl?

I minnau, roedd yn agoriad llygad ar gyfer cynllun da ac yn fwy y gallwn rannu’r buddiannau ohono – am y gorau felly.

 

Sut mae’r bartneriaeth wedi gweithio gyda Tempo?

Mae wedi bod yn wych. Mae unrhyw ddiweddariadau wir ar ddod – rwy’n cael y wybodaeth ymhell o flaen llaw. Os bûm yn ansicr, rydym wedi trafod y mater. Ydy, mae cyfathrebu ar unrhyw newidiadau a diweddariadau bob amser wedi bod yn wych.

 

Yn olaf, beth fyddech chi’n ei ddweud wrth Bartneriaid Cydnabyddedig newydd, posib, sy’n ystyried ymuno â’r rhwydwaith?

Byddwn ni’n dweud ewch amdani! Nid oes unrhyw beth negyddol go iawn – mae pobl yn defnyddio’n lleoliad am ddim, ond maent yn eu gwerthfawrogi’n fwy – mae bob amser gwên ar eu hwynebau! Os oes gennych gynnig da, byddant yn mynd i ffwrdd ac yn lledu’r gair. Yn fwy aml na dim byddant yn gwario yn y siop anrhegion neu’n dod â phobl gyda nhw. Mae’n bendant yn gynllun gwerth chweil i bobl a all wedyn gael mynediad i’ch lleoliad – mae’r cyfan yn bositif gen i!

Am fwy o wybodaeth am Plantasia, ymwelwch â’r wefan yma i ddysgu mwy am y lleoliad neu os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am Gredydau Amser Tempo, cysylltwch yma.

 

Sut fedra i hawlio’r cynnig hwn ac ymweld â’r lleoliad?

Os ydych chi am ymweld â’r lleoliad yna gallwch weld y cynnig yma ac archebu eich tocynnau.