Mae’r adroddiad hwn, a gynhyrchwyd gan y gwerthuswyr allanol Apteligen Ltd, yn cyflwyno canfyddiadau gwerthusiad o effaith Credydau Amser Tempo yng Nghymru a Lloegr. Mae’n cynnwys pwyslais penodol ar effaith Credydau Amser Tempo ar bobl dros 50 oed.

Y PRIF GANFYDDIADAU:


  • Mae aelodau Credydau Amser Tempo ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn newydd i wirfoddoli o gymharu â’r boblogaeth genedlaethol o wirfoddolwyr.

  • Mae 71% o aelodau Credydau Amser Tempo yn ennill llai na’r cyflog byw cenedlaethol. Mae bron hanner (49% yn ennill llai na £10,000 y flwyddyn.

  • Mae 72% o aelodau Credydau Amser Tempo yn rhoi o’u hamser i gynorthwyo eraill, naill ai ar sail 1:1 (fel cyfeillio) neu ar sail grŵp (fel cynnal grŵp cymorth gan gymheiriaid).

  • Roedd teimladau o hapusrwydd wedi cynyddu’n sylweddol ymhlith aelodau Credydau Amser Tempo.

  • Dywedodd 71% o aelodau Credydau Amser Tempo eu bod yn teimlo’n llai unig ac ar wahân ers ymwneud â Chredydau Amser Tempo. Dywedodd 43% o’r aelodau fod Credydau Amser Tempo wedi’u helpu i wneud ffrindiau a dod i adnabod pobl newydd.

  • Mae 57% o aelodau Credydau Amser Tempo yn dangos lefelau uchel o ymddiriedaeth mewn pobl eraill o gymharu â 35% ar draws poblogaeth y Deyrnas Unedig. Mae’r rhain ymhlith y lefelau uchaf o ymddiriedaeth yn fyd-eang.

  • Bu cynnydd 12% yn lefel gyfartalog y gweithgarwch corfforol ymhlith aelodau Credydau Amser Tempo, ynghyd â chynnydd cyfartalog o 2 awr yr wythnos ymhlith y rhai a oedd eisoes yn egnïol.

 

Darllenwch yr adroddiad yn Saesneg trwy glicio yma