Mae Credydau Amser Tempo wedi bod yn gweithio yn Swydd Caergrawnt er 2013. Ers hynny, rydym wedi gweithio gyda dros 120 o bartneriaid ennill, mewn partneriaeth â dros 40 o bartneriaid cydnabod, wedi cofrestru dros 1400 o wirfoddolwyr ac wedi ennill dros 60,000 o Gredydau Amser Tempo.

Gan weithio ochr yn ochr â Chyngor Dinas Caergrawnt a Chyngor Sir Caergrawnt, mae Tempo ac arweinwyr rhanddeiliaid lleol yn cynnig Credydau Amser Tempo a mynediad i’r rhwydwaith ennill a rhwydwaith ar gyfer defnyddio Credydau Amser Tempo ar gyfer sefydliadau cymunedol ar draws gwahanol rannau o’r sir.

Rydym wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Dinas Caergrawnt er 2015 ar brosiect sy’n targedu grwpiau cymunedol ac yn gwirfoddoli yn rhannau Gogledd a Dwyrain y sir, gyda chefnogaeth y tîm datblygu cymunedol.

Yn Swydd Caergrawnt, mae Credydau Amser Tempo yn fecanwaith sefydledig, profedig a hyblyg sydd nid yn unig o fudd i unigolion sydd fwyaf mewn angen ond sy’n cysylltu cymunedau ac yn creu cyfleoedd partneriaeth trwy Gaergrawnt.

 

 

Ychydig o wybodaeth am Ish


Mae Ish yn dod o Swydd Gaergrawnt ac mae’n frwd ynglÅ·n â chelf a cherddoriaeth. Clywodd Ish am Gredydau Amser Tempo gyntaf 4 blynedd yn ôl pan ddechreuodd wirfoddoli ar gyfer Richmond Fellowship.

“Rwy’n cofio’r tro cyntaf i mi fynd i’r hyfforddiant. Roeddwn i mor nerfus ond fe ges i groeso cynnes gan bawb.”

Roedd Ish yn hoff iawn o’r syniad o Gredydau Amser Tempo fel cymhelliad i annog gwirfoddolwyr i gamu ymlaen yn eu rolau a pharhau i wirfoddoli am gyn hired ag y gallent. Roedd yn amlwg bod Ish yn wirfoddolwr gwych a oedd yn frwd ynglÅ·n â gwirfoddoli, felly gofynnwyd iddi helpu mewn dwy rôl newydd mewn elusennau lleol; Illuminate a Make Do and Mend. Gan fod Ish wedi cael profiad o broses Credydau Amser Tempo, roedd yn ymgeisydd gwych ar gyfer rôl cydlynydd Credydau Amser Tempo.

Mae Ish wedi profi heriau iechyd meddwl a chorfforol mawr yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ond trwy’r cymorth a’r cyfleoedd a gafodd trwy Gredydau Amser Tempo, mae hi wedi cymryd camau mawr tuag at wella.

“Roeddwn i’n dwlu ar fy rolau Credydau Amser Tempo.”

 

Sut mae Ish yn ennill ei Chredydau Amser Tempo


Dechreuodd Ish ennill Credydau Amser Tempo gyntaf gyda Richmond Fellowship, ond roedd yn awyddus i wybod sut gallai wneud mwy yn ei chymuned gan ddefnyddio Credydau Amser Tempo. Felly, ymgymerodd Ish â chyfrifoldebau ychwanegol yn Make Do and Mend a Chymuned Tŷ Corona trwy helpu gyda gweithgareddau fel cynnal grwpiau cymunedol a golchi llestri.

“Rwy’n dwlu ennill [Credydau Amser Tempo] ac maen nhw’n fy ngwneud yn awyddus i ddod o hyd i fwy o ffyrdd i helpu yn fy nghymuned. Fel cydlynydd, rydw i hefyd wedi cael llawer o adborth gan wirfoddolwyr eraill sydd wedi dweud eu bod yn ddiolchgar am ennill eu Credydau Amser Tempo ac yn cael eu hysbrydoli gan hynny.”

 

 

Sut mae Ish yn defnyddio ei Chredydau Amser Tempo


Mae Ish wedi defnyddio ei Chredydau Amser Tempo ar amrywiaeth o weithgareddau ar draws ein rhwydwaith Credydau Amser Tempo, ac mae hi’n aml yn rhoi ei Chredydau Amser Tempo i’w ffrindiau ac aelodau ei theulu na fyddent wedi gallu gwneud y gweithgareddau a gynigir gan Gredydau Amser Tempo fel arall.

“Weithiau, rwy’n mynd i’r sinema, sy’n wych oherwydd dydw i ddim fel arfer yn gallu fforddio mynd yn aml iawn. Rydw i hefyd wedi’u defnyddio ar ddosbarth cynnal a chadw beiciau, a oedd yn ddefnyddiol iawn. Rydw i eisiau mynd i ddosbarth arall tebyg yn fuan i loywi fy sgiliau. Rydw i hefyd wedi’u defnyddio i fynd i nofio ac i’r theatr.”

Mae Ish yn dweud ei bod yn hoffi defnyddio Credydau Amser Tempo orau ar weithgareddau cysylltiedig â chwaraeon gan eu bod yn ei chymell i geisio bod yn fwy ffit, sy’n ei helpu i gynnal lles corfforol a meddyliol iachach.

“Rwy’n mynd i sesiwn ioga gyda fy ffrind yr wythnos nesaf! Mae’r bobl sy’n fy adnabod yn gwybod fy mod i’n dwlu ar ioga, ond nad ydw i fel arfer yn gallu fforddio mynd i ddosbarth yn aml ‘chwaith!”

 

 

Buddion


Mae Credydau Amser Tempo wedi gwneud “gwahaniaeth enfawr” i fywyd Ish ac wedi helpu i roi hwb i’w hyder a’i hunan-barch a’i hannog i gymryd rhan mewn pethau y byddai’n “rhy ofnus” i’w gwneud fel arfer.

Mae Ish wedi defnyddio Credydau Amser Tempo i gyfarfod â phobl ryfeddol ac wedi dysgu sgiliau newydd, trosglwyddadwy ym mhob rôl y mae wedi’i chyflawni. Mae’r sgiliau y mae Ish wedi’u datblygu wrth wirfoddoli wedi ei galluogi i ymgymryd â rolau newydd a chyffrous. Dysgodd Ish lawer o sgiliau gweinyddol yn ei rôl fel Cydlynydd Credydau Amser Tempo a’i helpodd i gael cyflogaeth barhaol yn ei hysbyty lleol fel gweinyddwr y GIG.

“Rydw i wedi bod yn ymwneud o ddifrif â sefydliad Credydau Amser Tempo ac rwy’n ei gefnogi’n frwd. Cyn gynted ag y clywaf y geiriau Credydau Amser Tempo, rwy’n mynd yn gyffrous ac mae gennyf lawer o bethau da i’w dweud. Rwy’n sicr yn ymwneud mwy â’m cymuned leol ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau’n rheolaidd. Yn fy swydd newydd, rwy’n aml yn gallu cyfeirio pobl at fannau yn y gymuned sydd wedi bod yn ddefnyddiol i mi.”

 

 

Neges gan Ish


“Ewch amdani! Byddwch yn cael profiad, sgiliau a chymorth. Yn ogystal â dod â chi’n agosach at eich cymuned leol, byddwch yn gwneud llawer o ffrindiau hefyd! Hoffwn ddiolch i Gredydau Amser Tempo am roi’r cyfle i mi gamu ymlaen gymaint ymhellach yn fy mywyd. O fod heb swydd, i wirfoddoli, i weithio dros dro gydag elusennau sy’n ymwneud â Chredydau Amser Tempo, i gael swydd barhaol yn y GIG, rydw i wedi dod mor bell ac yn fwy optimistaidd o lawer am fy mywyd. Heb gymorth Credydau Amser Tempo, dydw i ddim yn gwybod ble y byddwn i nawr.”