Mae Hilary, sy’n 80 oed, wedi bod yn ennill Credydau Amser Tempo am wneud cardiau Nadolig yn ei grŵp cymdeithasol, Here & Now, yn Blacon.

Menter gymdeithasol yw Here & Now a sefydlwyd gan Karen, sy’n 55 oed, a thîm ymroddedig o wirfoddolwyr gyda chymorth gan gyfarwyddwyr sefydliadau gwirfoddol lleol. Pan roddodd elusen leol y gorau i weithredu yn yr ardal, roedd y grŵp yn poeni sut byddai pobl leol yn ymdopi heb y gwasanaethau.

“Ein nod yw lliniaru ynysu cymdeithasol i bobl dros 50 oed yn Blacon a’r ardaloedd amgylchynol.” yn ôl Karen, “Rydyn ni’n darparu ymarfer corff, gweithgareddau cymdeithasol, pryd o fwyd 2 gwrs maethlon ac yn rhoi cyfle i bobl ddod at ei gilydd yn eu cymuned leol.”

“Mae’r grŵp Here & Now yn rhyfeddol. Daeth fy mam i fyw ataf 3 blynedd yn ôl ac roedd mor anodd gan fy mod yn gwneud swydd amser llawn ac yna’n gofalu am Mam drwy’r amser hefyd – ni allwn fyw hebddyn nhw!”

Angela, merch Hilary