Ym mis Ebrill eleni, fe gawson ni newyddion cyffrous ynglÅ·n â chynnydd y cais a gyflwynon ni i Lywodraeth Cymru ar gyfer rhaglen genedlaethol arloesol. Er mawr boddhad i ni, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi grant 3 blynedd i ni i ddatblygu’r Rhaglen Genedlaethol hon o Gredydau Amser Tempo ar gyfer y wlad i gyd.

Mae hyn yn newyddion gwych gan ein bod yn ei weld fel cam mawr tuag at ffurfio dyngarwch yng Nghymru trwy fynd i’r afael â llawer o broblemau cymdeithasol yn uniongyrchol. Bydd ein rhaglen yn cyd-fynd â pholisïau Llywodraeth Cymru ar leihau unigrwydd ac ynysu, ar yr un pryd â chaniatáu i ni gydnabod gwaith gwerthfawr gwirfoddolwyr trwy roi Credydau Amser Tempo iddynt, y gallant eu defnyddio gyda rhwydwaith cenedlaethol o Bartneriaid Cydnabyddiaeth.

Yn anffodus, mae’r ddwy broblem hyn yn gymharol gyffredin mewn cymdeithas yng Nghymru, wrth i adroddiad ddangos bod mwy na 25.3% o bobl hÅ·n yng Nghymru yn unig a bod 26.9% wedi’u hynysu’n gymdeithasol (Astudiaeth Gweithrediad Gwybyddol a Heneiddio).

Er bod y materion hyn yn tueddu i effeithio ar bobl hÅ·n yn fwy, mae’r ystadegau’n dangos bod cenedlaethau iau yn teimlo’n unig hefyd. Mae data a gasglwyd gan StatsCymru yn datgan bod cymaint ag 20% o bobl rhwng 16 a 24 oed yn dioddef unigrwydd.

Afraid dweud, gallwch ddisgwyl i’r ffigurau hyn gynyddu’n sylweddol o ganlyniad i’r pandemig diweddar.



Sut y bydd ein rhaglen genedlaethol o fudd i gymunedau

Yn gyntaf oll, rydym yn ffodus iawn i weithredu mewn gwlad sydd â thraddodiad mor gryf o undod. Fel y gwelir o’r pandemig, mae’n gyffredin iawn gweld cymunedau yng Nghymru a’u pobl yn barod i ddod at ei gilydd yn wyneb adfyd.

Credwn y bydd hyn o gymorth mawr i’n hymdrechion pan fyddwn yn amlinellu ein Rhaglen Genedlaethol o Gredydau Amser Tempo ar gyfer Cymru. Yn rhan o’n strategaeth, bwriadwn ddatblygu rhwydwaith cenedlaethol sy’n herio anghydraddoldeb yn uniongyrchol trwy werthfawrogi cyfraniad pawb at y gymuned.

Yr hyn sydd wrth wraidd y strategaeth yw proses drefnus a grëwyd i ddod â phobl yn agosach at ei gilydd trwy eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau dyngarol. Y gyfrinach yw meithrin cydlyniant cymunedol.

Dod â phobl ynghyd i gydweithio a dibynnu ar ei gilydd yw ein harf pwysicaf wrth ymladd yn erbyn anghydraddoldeb. Mae cymunedau’n teimlo’n unedig. Mae’r bobl fwyaf bregus yn teimlo eu bod yn cael eu cynorthwyo. Ac mae pobl yn cael eu hysbrydoli.


Os hoffech wneud gwahaniaeth a helpu i newid bywydau pobl, ymunwch â rhwydwaith Credydau Amser Tempo heddiw. Anfonwch neges e-bost atom ar hello@wearetempo.org neu ffoniwch 029 2056 6132. Gyda’n gilydd, gallwn ddechrau creu cymdeithas well.