Hoffem groesawu Surfability U.K. CIC i rwydwaith Credydau Amser Tempo. Cwmni buddiannau cymunedol yw Surfability U.K. CIC sy’n darparu profiadau a gwersi syrffio i bobl ag anghenion ychwanegol o ganlyniad i anabledd, salwch, anaf neu anawsterau dysgu. Eu nod yw cyfuno arfer gorau o feysydd addysg arbennig, gofal iechyd, syrffio ac achub bywydau fel y gall unrhyw un gymryd rhan mewn syrffio. Mae’r cwmni, sydd wedi’i leoli ym Mae Caswell yng Ngŵyr, bellach yn arwain y ffordd yn fyd-eang o ran syrffio addasol gyda dau leoliad yng Ngŵyr. Mae gwirfoddolwyr Surfability U.K. CIC yn helpu i gefnogi’r sefydliad mewn amrywiaeth o ffyrdd sydd oll yr un mor bwysig â’i gilydd. Gall gwirfoddolwyr gynorthwyo cyfranogwyr yn y dŵr neu gyflawni rolau gweinyddol, cyfathrebu, codi arian a hyd yn oed trysorydd.

Mae Surfability U.K. CIC wedi ymuno â Chredydau Amser Tempo i:

  • Wobrwyo’r gwirfoddolwyr gweithgar sy’n rhoi o’u hamser
  • Denu gwirfoddolwyr newydd er mwyn tyfu’r sefydliad
  • Gwneud syrffio addasol yn fwy hygyrch fyth.

Ein nod yw helpu Surfability U.K. CIC i gyflawni’r amcanion hyn ac ehangu’r sefydliad i helpu i wneud syrffio’n fwy cynhwysol fyth. Rydym yn falch iawn o’u croesawu fel un o’n grwpiau newydd ac yn awyddus iawn i ddechrau gweithio gyda nhw.

Gallwch ymweld â’u gwefan a chael gwybod sut i gymryd rhan yma.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnig neu ennill Credydau Amser Tempo gallwch gysylltu â ni yma.