Mae Noel yn ennill ei Gredydau Amser Tempo fel aelod annisgwyl o’r grŵp Crafty Seniors sydd fel arfer yn fenywod i gyd. Ac yntau’n byw yng Nghynllun Gwarchod Llanfihangel, mae’n mwynhau treulio amser gyda’r grŵp yn gwneud pom-poms ar gyfer prosiect Bomio Edau Llanelli sy’n cael ei gynnal yng nghanol tref Llanelli bob mis Gorffennaf/Awst. Ar ôl colli ei wraig yn ddiweddar, roedd Noel yn teimlo’n unig ac yn ynysig, ac roedd eisiau treulio mwy o amser y tu allan i’w fflat, ond nid oedd yn gwybod ble i fynd.
Ein partneriaeth
Mae Noel yn ennill Credydau Amser Tempo yn sesiynau’r grŵp trwy wneud pom-poms, rhannu ei sgiliau a chynorthwyo pobl eraill i’w gwneud nhw, a helpu i gynnal y grŵp.
Mae Noel wedi defnyddio ei Gredydau Amser Tempo i fynd i Dalacharn, lle yr ymwelodd â ThÅ· Cychod Dylan Thomas a’r Tin Shed Experience, sy’n cludo’r rhai sy’n cymryd rhan yn ôl i’r ail ryfel byd. Dywedodd Noel na fuasai wedi gallu ymweld â’r lleoedd hyn oherwydd y daith, a’r ffaith nad oedd ganddo bobl i fynd gydag ef yn gwmni. Mae bod yn rhan o’r Crafty Seniors a Rhwydwaith Credydau Amser Tempo wedi ei alluogi i wneud ffrindiau newydd a chael profiadau newydd.
“Mae gwneud pom-poms gyda’r grŵp wedi fy helpu i wneud ffrindiau newydd a chael profiadau newydd. Ni fuaswn wedi mynd i’r tÅ· cychod hebddyn nhw.â€