Ychydig o wybodaeth am Angela

Dechreuodd fy nhaith Credydau Amser Tempo ddwy flynedd yn ôl. Roeddwn i a’m gŵr, Fred, wedi ymddeol am resymau meddygol. Roeddwn i hefyd yn gofalu am fy nhad a oedd wedi symud i fyw atom ni er mwyn i ni allu ei gynorthwyo’n llwyr ar ôl iddo gael diagnosis o ddementia. Roedd bywyd wedi newid llawer i ni ac roedden ni’n sydyn wedi’n hynysu ac yn teimlo’n isel. Doeddwn i ddim yn credu bod gennyf bwrpas mwyach ac nid oedd hynny’n dda i’m hiechyd meddwl. Yn ystod yr adeg honno, gofynnodd ffrind i mi ddod i’w helpu i wirfoddoli mewn digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Dyna oedd ddechrau fy nhaith newydd. Mwynheais y diwrnod yn fawr, a chefais ddiolch mawr ar y diwedd ar ffurf Credydau Amser Tempo. Roedd yn wych teimlo’r gydnabyddiaeth am yr amser yr oeddwn wedi’i roi.

Dechreuais helpu mewn llawer o ddigwyddiadau eraill yn y gymuned leol, ac roeddwn yn gyffrous i gymryd rhan mewn gweithgareddau newydd a chyfarfod â phobl newydd. Daliais ati i wirfoddoli gyda phrosiectau fel; y prosiect Cymunedau’n Gyntaf, Dawns Amser Te dros Ganser y Fron a’r Clwb Brecwast. Agorodd y Clwb Brecwast ym mis Awst 2016 ac mae’n cael ei gynnal yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr. Gan ddefnyddio bwyd a roddwyd gan ffynonellau lleol, rydym yn cynnig brecwast iachus i bawb nad ydynt yn gallu fforddio bwydo’u hunain a’u teulu. Gall pobl sydd wedi’u hynysu gael awr i fwyta, sgwrsio a gwneud ffrindiau newydd. Mae gwirfoddolwyr wedi symud ymlaen i gael cyfleoedd cyflogaeth yn seiliedig ar y sgiliau a’r hyder maen nhw wedi’u hennill, sydd mor gyffrous i’w weld.

Rydyn ni bob amser wedi ennill Credydau Amser Tempo gyda’n gilydd ac eisiau sicrhau eu bod yn rhan fawr o daith y Clwb Brecwast. Rydyn ni wedi elwa’n fawr ohonynt, ac yn hoffi gweld ein gwirfoddolwyr yn gwneud yr un fath. Rydyn ni’n cronni ein Credydau Amser Tempo ac yn cynllunio trip mawr i ni, gan gynnwys rhai o’r bobl sy’n dod i’r clwb brecwast nad ydynt yn gallu fforddio’r profiadau y mae rhwydwaith Credydau Amser Tempo yn eu cynnig.

“Rydyn ni wedi bod i gynifer o leoedd na fyddem wedi’u profi fel arall! Roedd yn wych teimlo’r gydnabyddiaeth am yr amser yr oeddwn wedi’i roi.”