Cynhyrchwyd yr adroddiad hwn gan yr Ymgyrch i Roi Terfyn ar Unigrwydd mewn partneriaeth â Chredydau Amser Tempo er mwyn deall y ffactorau sy’n cyfrannu at unigrwydd yn rhanbarth gorllewin Cymru, ac amlygu ymyriadau effeithiol a’r tebygrwydd rhyngddynt, o ran ymyriadau targedig i leihau unigrwydd.

Mae naw miliwn o bobl unig yn y Deyrnas Unedig ac mae pedair miliwn ohonynt yn bobl hÅ·n. Mae llawer o’r rhain yn gweld mai unigrwydd cyson yw’r peth anoddaf i’w oresgyn, a’r diffyg cyfeillgarwch a chefnogaeth y mae arnon ni i gyd eu hangen.

Rydyn ni wedi canolbwyntio ar Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, lle mae rhoi terfyn ar unigrwydd yn her benodol gan fod y siroedd hynny’n cynnwys llawer o gymunedau gwledig ac anghysbell a phoblogaethau hÅ·n.

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno rhai o’r canfyddiadau o’n gwaith. Mae’n dangos dulliau arloesol o fynd i’r afael ag unigrwydd yng ngorllewin Cymru a allai fod yn berthnasol i ardaloedd eraill. Mae hefyd yn ystyried sut gellir ychwanegu at y dulliau hyn i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i wneud cysylltiadau sy’n bwysig iddynt.

Gallwch ddarllen yr adroddiad yma.

Gallwch ddarllen yr adroddiad yn Saesneg yma.