Uber Boat gan Thames Clippers

Dyma’r adeg honno o’r mis eto, lle rydyn ni’n treulio peth amser yn canolbwyntio ar rai o’r partneriaid cydnabyddiaeth anhygoel yn ein rhwydwaith! Os ydych chi’n byw yn Llundain neu’n ymweld â Llundain yna mae hwn yn hanfodol ac yn gyfle gwych i deithio ar draws y ddinas mewn ffordd wirioneddol unigryw.

Y mis hwn rydym yn gyffrous cael sgwrs gyda Liam Thompson, Rheolwr Cyfathrebiadau Cwsmer gyda Uber Boats Thames Clippers. I weld sut mae Credydau Amser Tempo wedi helpu eu busnes a’r rhesymau pam eu bod wrth eu bodd yn gwobrwyo gwirfoddolwyr ac yn cydnabod y cyfraniadau maent yn gwneud i gymdeithas, dewch i glywed mwy.

 

Pa bryd wnaethoch chi ymuno â rhwydwaith Credydau Amser Tempo?

Fe wnaethom ymuno oddeutu 2014. Roeddwn yn chwilio am ffyrdd i gydnabod y gwaith gwirfoddol sy’n mynd yn ei flaen yn ein cymuned ac fe wnaeth model Tempo ein caniatáu i wneud hyn, mewn modd syml, risg-isel.

 

Ar beth y gellir defnyddio Credydau Amser Tempo?

Mae gwirfoddolwyr Credydau Amser Tempo yn cyfrannu at y gymuned sydd wedyn yn caniatáu iddynt ennill Credydau Amser Tempo. Gall y gwirfoddolwyr ddefnyddio eu Credydau Amser Tempo yn hyblyg ar gyfer un siwrnai, unrhyw le o fewn ein rhwydwaith llwybrau o 23 glanfa, yn ymestyn o Woolwich (Royal Arsenal) yn y dwyrain i Putney yn y gorllewin.

 

Sut mae bod yn Bartner Cydnabyddiaeth o fudd i’ch sefydliad?

Rydym yn cofleidio ac yn gwobrwyo’r gwaith gwirfoddol y mae’r unigolion hyn yn ei gyfrannu i’r gymuned. Rydym yn falch o ddathlu hyn trwy eu gwahodd ar fwrdd ein llongau. Y budd i ni yw gallu sefyll ochr yn ochr â’r elusen Tempo a deall ein sylfaen cwsmeriaid ymhellach. Mae’n sefyllfa ble mae pawb yn ennill, rydyn ni’n dod yn fwy mewnol yn y gymuned, yn deall mwy am ein marchnad, ac yn denu cysylltiadau cyhoeddus cadarnhaol. Mae’r gwirfoddolwyr yn cael mynediad hyblyg i’n gwasanaethau.

 

Sut brofiad ydyw i dderbyn Credydau Amser Tempo ar gyfer eich lleoliad / busnes?

Mae’n syml iawn. Rydym wedi gallu integreiddio’r broses Credydau Amser Tempo i’n system docynnau ac archebu, sydd wedi sicrhau dull effeithlon sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ar gyfer y gwirfoddolwyr. Mae hyn hefyd yn ein galluogi i gadw rheolaeth. Mae Credydau Amser Tempo wedi bod yn gefnogol iawn i integreiddio ein proses adbrynu ac archebu wrth i ni esblygu fel busnes.

 

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth fusnesau eraill sy’n ystyried ymuno â’r rhwydwaith Credydau Amser Tempo?

Mae’n gyfraniad elusennol ac yn teimlo’n werth chweil croesawu’r gwirfoddolwyr sydd wedi cyfrannu’n fawr at y gymuned. Mae’n ffordd wych i staff sy’n wynebu cwsmeriaid gysylltu â chymunedau lleol a deall y math o gyfraniadau a roddir gan y gwirfoddolwyr. Mae yna ofyniad gweinyddol cyfyngedig i groesawu gwirfoddolwyr Credydau Amser Tempo. Mae yna fuddion sylweddol i ni a dim anfanteision amlwg.

 

Am fwy o wybodaeth?

Os hoffech wybod mwy am gymryd rhan yn rhwydwaith Tempo, yna cysylltwch heddiw fesul e-bost, ein gwefan neu deleffon:

Hello@wearetempo.org

www.wearetempo.org/contact

Teleffon – 029 2056 6132

Nodwch os gwelwch yn dda – Bydd eich codau archebu’n dod i ben ar ddiwedd 2021, ond rydych yn gallu defnyddio eich codau i archebu tocynnau ar gyfer teithiau yn 2022.

Rhaid cyfnewid y codau archebu cyn diwedd y flwyddyn.