
Becky Booth
Aelod o'r Bwrdd
Becky yw Prif Swyddog Gweithredol The Bridge, lle mae’n arwain gwaith sy’n canolbwyntio ar gefnogi iechyd a lles menywod. Mae hi wedi dal amrywiaeth o rolau ar draws y DU a Dwyrain Affrica, gan gynnwys cefnogi entrepreneuriaid ar draws Dwyrain Affrica ac arwain We Stand, sefydliad cenedlaethol sy’n mynd i’r afael â cham-drin plant yn rhywiol. Cyd-sefydlodd Becky Tempo yn 2008 fel rhan o dîm creadigol a gweledigaethol, gan helpu i lunio ei genhadaeth a'i effaith. Mae hi wrth ei bodd yn cael ei hailgysylltu â’r sefydliad fel Ymddiriedolwr ac mae’n parhau i fod yn hynod angerddol am ei ddiben a’i ddull gweithredu. Ochr yn ochr â’i bywyd proffesiynol, mae Becky’n mwynhau bod yn fam i’w phlentyn ifanc, teithio, nofio dŵr oer, a rhedeg.