Dr DeAnn Bell

Arweinydd Ymgysylltu ar gyfer y Gogledd a Chanolbarth Cymru

Fel Arweinydd Ymgysylltu ar gyfer y Gogledd a Chanolbarth Cymru, rwy'n gweithio gyda sefydliadau a arweinir gan wirfoddolwyr i'w helpu i ymuno â rhwydwaith Tempo Time Credits a ffynnu ynddo. Rwy'n angerddol dros gryfhau cymunedau drwy gydnabod a gwobrwyo'r amser y mae pobl yn ei roi drwy wirfoddoli. Gan fyw yng nghysgod Yr Wyddfa, rwy'n falch o gefnogi sefydliadau ledled Cymru i greu mwy o gyfleoedd i bobl gysylltu, cyfrannu a theimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.