Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein hadroddiad mewn partneriaeth â The Campaign to End Loneliness wedi’i lansio. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio’n galed gyda’r Ymgyrch i Roi Terfyn ar Unigrwydd a chymunedau gorllewin Cymru gyda’r nod o gynhyrchu’r adroddiad hwn.

Mae naw miliwn o bobl unig yn y Deyrnas Unedig ac mae pedair miliwn ohonynt yn bobl hÅ·n. Mae llawer o’r rhain yn gweld mai unigrwydd cyson yw’r peth anoddaf i’w oresgyn, a’r diffyg cyfeillgarwch a chefnogaeth y mae arnon ni i gyd eu hangen. Credwn y dylai pobl o bob oed gael eu galluogi i wneud cysylltiadau ystyrlon.

Ers 2017, mae grant Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi ein galluogi i weithio ar lawr gwlad yng ngorllewin Cymru. Fe ddewison ni ddatblygu’r Ymgyrch yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, lle mae rhoi terfyn ar unigrwydd yn her benodol gan fod y siroedd hynny’n cynnwys llawer o gymunedau gwledig ac anghysbell a phoblogaethau hÅ·n. Mae gorllewin Cymru yn cynnwys amrywiaeth o gymunedau trefol a gwledig sy’n rhoi cyfle i ni weld sut mae ynysu daearyddol yn effeithio ar unigrwydd, er enghraifft, o ran effaith cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus cyfyngedig. At hynny, mae gan y rhanbarth nifer anghymesur o:

  • Siaradwyr Cymraeg
  • Pobl hÅ·n
  • Ymfudwyr hÅ·n/pobl sydd wedi ymddeol a allai fod â rhwydweithiau cymdeithasol cyfyngedig yn eu cymunedau newydd

Mae chwarter poblogaeth gorllewin Cymru dros 65 oed. Bydd hyn yn cynyddu wrth i bobl hÅ·n ymddeol i’r ardaloedd hyn, a phobl iau symud i ffwrdd ar gyfer cyfleoedd addysg a chyflogaeth, gan adael llai o gyfleoedd am gysylltiadau ystyrlon rhwng y cenedlaethau, o bosibl.

Bydd yr adroddiad hwn, a grëwyd mewn partneriaeth â Chredydau Amser Tempo, yn helpu i ddwyn ynghyd a dangos holl waith caled a chyflawniadau’r ymgyrch ers 2017.

“Mae The Campaign to End Loneliness wedi gallu canolbwyntio ar orllewin Cymru gyda chymorth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ers 2017. Wrth i’r grant ddirwyn i ben, rydym eisiau gadael gwaddol ar gyfer y gwaith hwnnw ar ffurf yr adroddiad hwn, sy’n dwyn ynghyd y wybodaeth a’r ddealltwriaeth a gafwyd gan yr unigolion a’r sefydliadau ymroddedig niferus rydym wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda nhw.”

Robin Hewings

Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd

Polisi ac Ymchwil, yr Ymgyrch i Roi Terfyn ar Unigrwydd

Fe’ch gwahoddir i ddarllen yr adroddiad llawn yma.