Efallai eich bod yn cofio i ni gyhoeddi ym mis Rhagfyr ein bod yn addasu ein cynigion cydnabyddiaeth i wirfoddolwyr er mwyn rhoi mwy o ddewis i chi wrth ddefnyddio’ch Credydau Amser Tempo. Oherwydd bod COVID-19 yn parhau i effeithio ar ein rhwydwaith cydnabyddiaeth a bod lleoliadau ar gau o hyd ar draws y wlad, rydym wedi parhau i addasu ein rhwydwaith i roi mwy o ddewis fyth i chi o ran siopa am fwydydd, adloniant a bwytai.

Felly, yn dilyn cyhoeddiad y mis diwethaf ynglŷn â gallu defnyddio Credydau Amser Tempo Ar-lein gyda Netflix, Tesco a Pizza Hut, gallwch ddewis defnyddio eich Credydau Amser Tempo Ar-lein gyda Greggs, Asda a Disney+ hefyd erbyn hyn.

Fel y sonion ni o’r blaen, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Credydau Amser Tempo cyn y gallwch elwa o’r cynigion ar-lein hyn. Gallwch gofrestru’n gyflym, yn rhwydd ac am ddim yma. Ar ôl i chi gofrestru, gallwch newid eich Credydau Amser Tempo papur yn Gredydau Amser Tempo ar-lein trwy eu hanfon at “FREEPOST TEMPO TIME CREDITS” gyda nodyn y tu mewn sy’n cynnwys eich enw, eich Rhif Adnabod Aelodaeth Tempo a rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost cyswllt. Yna, byddwn yn credydu’r Credydau Amser Tempo Ar-lein i’ch cyfrif.

SYLWCH – Os hoffech ennill Credydau Amser Tempo Ar-lein trwy wirfoddoli, cysylltwch â’r grŵp rydych yn gwirfoddoli ag ef hefyd fel y gall eich ychwanegu at y system ar-lein i ddechrau ennill.

Wrth gwrs, os ydych eisoes wedi cofrestru, gallwch weld y cynigion newydd a defnyddio’ch Credydau Amser Tempo Ar-lein yma. Fel bob amser, gallwch gael gwybod y newyddion diweddaraf am Gredydau Amser Tempo trwy danysgrifio i’n cylchlythyr yma. Byddwn yn parhau i gyhoeddi cynigion newydd a chyffrous drwy gydol y flwyddyn i chi ddefnyddio’ch Credydau Amser Tempo arnynt.