Oes golau ar ddiwedd y twnnel?
Mae’n anodd coelio fod hi’n fis Mai yn barod! Rydym yn ddiolchgar i weld ein cymunedau yn ailagor wedi’r cyfnod cloi. Ar rai adegau rydym i gyd wedi teimlo ein bod wedi ein gwahanu oddi wrth ffrindiau, teulu ac mewn sawl achos ein rhwydwaith cymorth, ond rydym yn dechrau gweld golau ar ddiwedd y twnnel. Mae’r ail-agoriad raddol o’n cymunedau yn newyddion gwych a gwyddom eich bod mor awyddus ag yr ydym i’r partneriaid cydnabod lleol ailagor yn llawn ac i ni ail-danio’r rhwydwaith cydnabyddiaeth leol ledled y wlad.
Wrth i gyfyngiadau leihau, nodwch:
Wrth i ni drosglwyddo i’n system ddigidol newydd, rydych wedi bod yn mwynhau llawer o wahanol gyfleoedd cyffrous a gwahanol lle gallwch gyfnewid eich Credydau Amser Tempo.
Tra fod cymunedau yn ailadeiladu, rydym yn ystyriol fod llawer o’n partneriaid sydd yn derbyn Credydau Amser Tempo hefyd wedi gwynebu sialensau newydd dros y flwyddyn diwethaf. Cofiwch yn ystod yr adeg yma o ail-agor graddol fod llawer o bethau sydd eto ddim yn ol i’r arfer, mae pethau wedi newid, nid yw pob un o’n partneriaid cydnabyddiaeth yn barod i gychwyn derbyn Credydau Amser Tempo eto (efallai bod rhai wedi oedi ei cynigion yn y tymor byr) a mae llawer gyda system archebu a phrosesau newydd.
Byddwch yn amyneddgar gyda’n partneriaid gwych wrth iddynt addasu i ailagor, llawer ohonynt gyda staff newydd yn y swydd. Rydym yn gweithio’n galed i gael cynigion yn ôl ichi cyn gynted â phosibl. Am yr holl gynigion byw cyfredol ewch i:www.tempotimecredits.org/activities
Heb gofrestru ar gyfer Credydau Amser Ar-Lein eto?
Os nad ydych eto wedi trosglwyddo i fod ar ein platfform digidol a chyfnewid eich Credydau Amser Tempo papur ar gyfer Credydau Amser Tempo Ar-lein, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl a bydd ein tîm gwych yn eich cefnogi i’r platfform newydd.
Cofiwch, os oes angen cefnogaeth arnoch gyda’ch Credydau Amser Tempo neu os oes gennych gwestiwn, cysylltwch â’n Tîm Gwasanaeth Cwsmer ar support@timecredits.com neu ffoniwch ni ar 029 2056 6132.
Gan ddymuno pob hwyl i chi ar gyfer yr haf!
Tîm Credydau Amser Tempo