Mae C yn defnyddio gwasanaeth Recovery Cymru yng Nghaerdydd. Mae’n dioddef iechyd meddwl gwael ac wedi treulio llawer o amser yn yr ysbyty. O ganlyniad, dechreuodd C hunanfeddyginiaethu gydag alcohol a daeth yn ddibynnol arno. Mae C yn cael trafferth mewn lleoliadau grŵp ac wedi’i chael hi’n anodd ymgysylltu â rhai o’r sesiynau yn Recovery Cymru yn flaenorol. Fodd bynnag, mae bellach wedi dechrau helpu’r staff i agor y ganolfan ar ddydd Sul. Mae’n ddiwrnod ychydig yn fwy tawel ac mae C yn helpu i ddarparu’r sesiynau ac yn teimlo bod hynny’n haws o lawer i ymdopi ag ef. Mae’n gwneud rhywbeth cadarnhaol â’i amser, gan helpu’r gwasanaeth i fod ar agor am gyfnod hwy, ac mae’n ffurfio perthynas â’i gyfoedion yn araf deg.
Mae C wedi mwynhau defnyddio ei Gredydau Amser Tempo trwy fynd i’r theatr, mynd i nofio a mynd i’r gampfa. Bu’n fuddiol iawn i C ddod yn fwy egnïol ac iach, ac mae’r profiad o ennill a defnyddio Credydau Amser Tempo wedi bod yn gadarnhaol at ei gilydd.