‘Roedd Credydau Amser Tempo wedi rhoi rheswm i mi fynd allan o’r tÅ·, cyfarfod â phobl newydd a mynd i leoedd gwahanol.’
Sylweddolodd Simon ei fod yn hoffi garddio trwy ennill Credydau Amser Tempo gyda Phrosiect Haringey, sy’n canolbwyntio ar bobl sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau, neu sydd mewn perygl o’u profi. Ac yntau’n byw yn Hostel St Mungos, cynigiwyd cyfle iddo ennill ei Gredydau Amser Tempo cyntaf. ‘Roeddwn i’n byw yn St Mungos am ddwy flynedd a hanner, ac fe wirfoddoles i iddyn nhw trwy arddio. Roedden nhw’n hapus iawn â beth wnes i, ac roedd hynny wedi fy ysbrydoli i weithio mwy ac ennill Credydau Amser Tempo, i wneud pobl yn hapus, ac i’m gwneud i’n hapus.’ Ers hynny, mae Simon wedi defnyddio ei sgiliau i helpu sefydliadau eraill yn Haringey fel The A Team, sef grŵp o wirfoddolwyr sy’n gwneud gwaith o gwmpas y tÅ· fel garddio, gan roi o’i amser yn rheolaidd ac ennill sgiliau y mae’n gobeithio y byddant yn arwain at gyflogaeth daledig ryw ddydd.
‘Mae wedi fy helpu i wella fy iechyd corfforol a meddyliol hefyd. Mae’n gwneud i mi deimlo’n hapus ac wedi fy ngrymuso i weithio ac ennill, ac rwy’n mwynhau mynd i leoedd. Mae Credydau Amser Tempo wedi rhoi’r rhyddid i mi wneud hyn, mae wedi fy ngwneud yn fwy cyfeillgar a hyderus. Rydw i wastad wedi bod â diddordeb yn hanes Haringey, ond nawr galla’i ehangu fy ngwybodaeth am Lundain.’
Defnyddiodd Simon ei Gredydau Amser Tempo cyntaf ar gwrs tyfu madarch bwytadwy gyda Living Under One Sun. Ers hynny, mae wedi defnyddio ei Gredydau Amser i dretio ei fam, gan fynd â hi i Tower Bridge, Palas Kensington, Keats House ac ar fadau Cliper y Thames.
‘Peth arall gwych am Gredydau Amser Tempo yw’r ffaith eich bod yn gallu eu defnyddio nhw i dretio’ch teulu a’ch ffrindiau. Rydw i wedi mynd â’m Mam i leoedd dydy hi erioed wedi bod iddyn nhw o’r blaen. Fe es i ar lawer o dripiau gyda Chredydau Amser Tempo fis Awst eleni, a dyna oedd y mis Awst gorau o’m bywyd.’
Aeth Simon i ddigwyddiad Rhwydwaith a gynhaliwyd ar gyfer partneriaid cydnabyddiaeth Llundain a siaradodd yn hyderus am ei brofiad o Gredydau Amser Tempo. Ef oedd seren y noson, a siaradodd llawer o bartneriaid Credydau Amser Tempo ag ef wedi hynny i glywed mwy am ei daith.