Os na wyddoch yn barod, mae rhaglen Credydau Amser Tempo eisioes wdi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i greu Credydau Amser Tempo yng Nghymru!
Mi fydd y rhaglen hwn yn galluogi Tempo i ddatblygu rhaglen cenedlaethol a fydd yn ymestyn ar hyd a lled y wlad.
Rydym yn gyffrous dros ben oherwydd mi fydd ein rhaglen yn ategu polisiau Llywodraeth Cymru ar fynd i’r afael ag effeithiau unigrwydd ac ynysigrwydd ynghyd ag effaith tlodi ar gymunedau, ac mi fydd yn ysgogi gweithrediad cymunedol lleol drwy wirfoddoli ar hyd a lled y wlad. Mi fyddwn yn cydnabob cannoedd o oriau a roddir gan wirfoddolwyr i gymunedau Cymraeg o dan gynllun Credydau Amser Tempo, er mwyn iddynt medru eu defnyddio gyda’n rhwydwaith cenedlaethol o Bartneriaid Cydnabyddiaeth.
Gwyliwch ein fideo gyda dehongliad BSL wrth i Carwen-un o’n Rheolwyr Cymunedau a Phartneriaethau-egluro bob dim am raglen Credydau Amser Tempo yng Nghymru!