Ein Gwaith yng Nghymru – Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru

Cerrig milltir a gyrhaeddwyd yn Rhaglen Llywodraeth Cymru hyd yn hyn..
- 900+ o Sefydliadau Cymunedol ledled Cymru
- 8,000+ o Wirfoddolwyr wedi ymgysylltu drwy Gredydau Amser Tempo Cymru
- 275,000+ o Gredydau Amser wedi'u Hennill
- 40,000+ o Gredydau Amser wedi'u Defnyddio
Bellach mae sylw tîm Cymru a rhaglen Cymru yn canolbwyntio ar wella'r effaith y mae Credydau Amser yn ei chael o fewn ein cymunedau drwy weithio a chefnogi sefydliadau cymunedol i wneud y mwyaf o Gredydau Amser, ac i'r graddau mwyaf, er mwyn cael effaith ystyrlon ar fywydau unigolion.
“Rwy’n eu caru. Mae Credydau Amser yn rhoi’r ymdeimlad o urddas i mi. Maen nhw’n caniatáu i mi rhoi trît i bobl, ac mae hynny’n dod â llawenydd go iawn i mi.”
‘Mae Credydau Amser Tempo wedi caniatáu i’m brawd y moethusrwydd o ymweld â’r sŵ a’r sinema heb fawr o gost mynediad.’
‘Mae’r platfform digidol wedi adfywio ymgysylltiad gwirfoddolwyr, gan wneud cydnabyddiaeth yn hygyrch ac yn annibynnol.’
Cysylltu â Thîm Cymru
Amy Cole
Pennaeth Rhaglenni Cymru
Mae Amy yn gallu cefnogi unigolion ar draws pob maes o'n gwaith gweithredu yng Nghymru a gwneud y mwyaf o ddefnyddio Credydau Amser o fewn grwpiau cymunedol ar sail unigol hyd at reoli gwaith Tempo yng Nghymru ar lefel strategol.
Saffron Isaac
Arweinydd Partneriaethau Cymunedol Rhanbarthol ac Ymgysylltu (De/Gorllewin Cymru)
Gall Saffron gefnogi sefydliadau cymunedol gyda gweithredu a gwneud y mwyaf o Gredydau Amser yn unol ag anghenion pwrpasol y sefydliad ei hun ar draws De a Gorllewin Cymru.
DeAnn Bell
Arweinydd Partneriaethau Cymunedol Rhanbarthol ac Ymgysylltu (Canolbarth/Gogledd Cymru)
Gall DeAnn gefnogi sefydliadau cymunedol gyda gweithredu a gwneud y mwyaf o Gredydau Amser yn unol ag anghenion pwrpasol y sefydliad ei hun ar draws Canolbarth a Gogledd Cymru.


.avif)

