DIOLCH AM EICH DIDDORDEB YN EIN HADRODDIADAU ASESU EFFAITH AR GYFER 2021 – 2022.

RYDYM YN EICH GWAHODD I LAWRLWYTHO YR ADRODDIAD LLAWN NEU Y CRYNODEB GWEITHREDOL ISOD

Credydau Amser Tempo yng Nghymru Adroddiad Effaith 2020-21 

Crynodeb Gweithredol 

Mae Credydau Amser Tempo yng Nghymru yn falch iawn o lansio ei adroddiad effaith diweddaraf ar gyfer y flwyddyn 2020-21.
Neges gan ein Prif Swyddog Gweithredol Mark Froud

Bu 2020 yn flwyddyn heriol i nifer o sefydliadau a phobl, ond rydym yn falch iawn o weld unwaith eto’r effaith gadarnhaol y mae Credydau Amser Tempo wedi’i chael ar fywydau pobl a sut rydym wedi cefnogi cymunedau, unigolion a sefydliadau i fodoli mewn amgylchedd anghyfarwydd dros y 18 mis diwethaf.

 

Tynna’r adroddiad sylw at ein canfyddiadau allweddol dros y flwyddyn ddiwethaf ynghylch yr effaith gadarnhaol y mae Credydau Amser Tempo wedi’i chael. Gyda balchder y rhannwn yr adroddiad a’i ganfyddiadau gyda chi. Daeth crynodeb o’r canfyddiadau i’r casgliad:

 

Canfyddiadau allweddol Credydau Amser Tempo yng Nghymru:

 

  • Cafodd COVID-19 effaith gadarnhaol ar amser gwirfoddoli. Roedd 48% erioed neu prin wedi rhoi o’u hamser cyn ennill Credydau Amser Tempo.

 

  • Cafodd ystod eang o gyfleoedd Cydnabod eu gwerthfawrogi a’u defnyddio gan wirfoddolwyr Tempo. Ehangwyd y cyfleoedd hyn ac roeddent yn cynnwys groser, tecawê ac ar-lein i ddiwallu anghenion rheolau’r cyfnod clo.

 

  • Mae sefydliadau sy’n defnyddio Credydau Amser Tempo yn gwerthfawrogi eu gallu i gadw gwirfoddolwyr (52%) a recriwtio gwirfoddolwyr (46%) oherwydd y gydnabyddiaeth a ddarperir gan Gredydau Amser Tempo.

 

  • Daw gwirfoddolwyr Tempo o grwpiau demograffig mwy amrywiol na’r boblogaeth neu’r sylfaen wirfoddolwyr traddodiadol, maent yn fwy tebygol o beidio â bod mewn cyflogaeth, o fod â chyflwr cyfyngol, yn fwy tebygol o fod yn wirfoddolwyr rheolaidd, ac yn dod o ystod ehangach o gefndiroedd economaidd.

Ystadegau effaith allweddol yr adroddiad:

 

Meddai ein Prif Swyddog Gweithredol Mark Froud – “Cafodd nifer o’r strwythurau cymorth a oedd yn ddibynnol ar gyswllt wyneb yn wyneb, a’u cyflwyno gan y rhai sy’n agored i COVID-19, eu hatal dros nos. Mae’n dyst i gryfder ein cymdeithas bod cymaint o bobl wedi camu ymlaen a gwirfoddoli eu hamser. Hebddyn nhw, byddai’r problemau a’r materion y mae ein gwlad yn eu hwynebu nawr yn llawer mwy difrifol. Mae hon yn ddyled na allwn fyth ei had-dalu i’r miliynau hynny o bobl, y mae’r mwyafrif o’r rheiny yn wirfoddolwyr, nad ydynt yn ystyried eu hunain yn arwyr. Ond arwyr ydynt.

 

Chwaraeodd Tempo ran fach wrth ehangu’r sylfaen gwirfoddoli a chydnabod yr effaith y mae sefydliadau gwirfoddol lleol yn ei chael. Cynyddodd ein heffaith yn ystod y pandemig, ac adlewyrchir hyn yn niferoedd a straeon gan wirfoddolwyr. Cyflwyna achos pwerus i’r rhai sydd mewn grym, bod gwirfoddoli yn fwy pwerus na’r hyn y sylweddolwn o ran y seilwaith y mae ein cymdeithas wedi’i adeiladu o’i amgylch. Fel ein seilwaith materol, mae angen buddsoddiad.”