Cwestiynau ac Atebion Pellach

Yn chwilio am Gwestiynau Cyffredin mwy penodol? Gweler yr adrannau canlynol am gwestiynau sy’n ymateb i’ch math o gwsmer.

Faint yw gwerth Credydau Amser Tempo?

Nid oes gan Gredydau Amser Tempo unrhyw werth ariannol, gall gwirfoddolwr eu hennill am yr amser y mae wedi’i dreulio yn cyfrannu at eu cymuned. Gellir cyfnewid y rhain o fewn y rhwydwaith cydnabod Credyd Amser Tempo am gynnyrch, gwasanaeth neu weithgaredd.

A oes angen i wirfoddolwyr gofrestru am gyfnod penodol o amser?

Nc oesa, nid oes cyfnod penodol o amser. Efallai mai dim ond un Credyd Amser Tempo y bydd rhywun yn ei ennill, efallai y bydd yn ei ennill yn anaml, neu mor aml ag y gall.

Pa mor hir sydd gan bobl i ddefnyddio eu Credydau Amser Tempo?

Nid oes dyddiad dod i bener hynny, rhaid i bobl gofrestru ar wefan Credydau Amser Tempo er mwyn ennill y credydau a gall rhai cyfleoedd cydnabyddiaeth fod yn amodol ar argaeledd.

Beth yw manteision defnyddio Credydau Amser Tempo?

Mae Credydau Amser Tempo o fudd i’n gwirfoddolwyr trwy ddarparu cyfleoedd newydd iddynt na fyddent o bosibl yn gallu eu fforddio na’u profi fel arall. Oherwydd hyn maent yn wych ar gyfer cydnabod a gwobrwyo ein gwirfoddolwyr am eu hamser.

Mae’r credydau o fudd i’n grwpiau Gwobrwyo drwy eu helpu i recriwtio a chadw gwirfoddolwyr gan eu bod yn gallu eu cydnabod a’u gwobrwyo am eu cyfraniadau.

Mae’r Credydau Amser Tempo o fudd i’n partneriaid Cydnabyddiaeth trwy ddenu cwsmeriaid newydd. Yn aml pan fydd ein gwirfoddolwyr yn dod i wario eu credydau, maen nhw’n dod â ffrind sy’n talu pris llawn. Os ydynt yn cael profiad da maent hefyd yn debygol o argymell hyn i’w ffrindiau nad ydynt efallai wedi ystyried ymweld o’r blaen. Mae hefyd yn wych ar gyfer eu CSR.

Beth fedrwch chi ei brynu gyda Chredydau Amser Tempo?

Gellir cyfnewid Credydau Amser Tempo am amrywiaeth eang o gynhyrchion, gwasanaethau a gweithgareddau, yn amodol ar argaeledd. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Sut mae busnesau'n ymwneud â Tempo?

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth i ddod yn bartner Cydnabyddiaeth neu cysylltwch gyda’n tîm cyfeillgar i ddechrau arni: Hello@wearetempo.org.

Sut ydyn ni'n cefnogi pobl i wirfoddoli os oes ganddyn nhw anghenion cymhleth?

Credwn fod gan bawb rywbeth i’w roi, waeth beth fo’u hoedran neu anabledd. Rydym yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau gan gynnwys canolfannau dydd a darparwyr gofal cymdeithasol i sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer ennill a defnyddio Credydau Amser Tempo ar gael i bawb.

A oes modd i ofalwyr neu weithwyr cymorth gael mynediad i leoliadau i gefnogi pobl i ddefnyddio Credydau Amser Tempo?

Gall gofalwyr neu weithwyr cymorth gael mynediad am ddim gydag unrhyw un sydd wedi ennill Credydau Amser Tempo ac sydd angen cymorth ychwanegol, yn dibynnu ar bolisi’r lleoliad yr ydych yn ei fynychu. Os oes gan aelod neu rywun rydych yn ei adnabod neu’n ei gefnogi anghenion hygyrchedd, ffoniwch ein partneriaid cyfeillgar cyn ymweld. Byddant yn hapus i helpu a chynghori ar eu polisi.

A yw Credydau Amser Tempo yn effeithio ar fudd-daliadau gwladol y bobl?

Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin ar wahân i gael yr holl wybodaeth am hyn yma.

A oes modd trosglwyddo Credydau Amser Tempo rhwng pobl?

Oes. Mae Credydau Amser Tempo yn gwbl drosglwyddadwy. Mae modd i chi eu rhoi i aelod o’r teulu neu ffrind i’w defnyddio, neu eu defnyddio i fynd â ffrind i weithgaredd gyda chi. Rydyn ni wedi cael nifer o bobl yn eu defnyddio i ddweud diolch i bobl sydd wedi eu helpu. Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin ar wahân i gael yr holl wybodaeth am hyn yma.

Pwy sy'n gyfrifol am ddiogelu?

O safbwynt sefydliad neu grŵp, ni ddylai pobl sy’n ennill neu’n defnyddio Credydau Amser Tempo fod yn wahanol i wirfoddolwyr arferol. Dylid eu rheoli yn yr un modd â gwirfoddolwyr eraill a dylai unrhyw strwythurau neu brosesau sydd ar waith hefyd fod yn berthnasol.

 Mae dal angen i chi sicrhau bod eich gwirfoddolwyr ac aelodau o’r gymuned yn ddiogel ac efallai y bydd angen darparu hyfforddiant sefydlu, hyfforddiant a gwiriadau DBS fel y bo’n briodol ar gyfer eich grŵp neu wasanaeth. Chi sy’n gyfrifol am reoli’r gwirfoddolwyr a sicrhau bod unrhyw risgiau’n cael eu rheoli’n briodol. Os oes gennych unrhyw bryderon am hyn, gallwn eich cynghori ar ble mae mynd ati i gael cymorth.

 Lle da i ddechrau yw volunteering England:

 www.volunteeringengland.org.uk

 neu Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

 www.wcva.org.uk

Pwy sy'n gyfrifol am iechyd a diogelwch?

Y chi sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch unrhyw bobl sy’n ennill neu’n defnyddio Credydau Amser Tempo gyda chi. Rhaid i unrhyw weithgaredd ennill a chydnabod Credyd Amser Tempo gael ei gwmpasu gan reolaeth iechyd a diogelwch, yswiriant, polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad neu wasanaeth.

Rydym yn gwybod ei bod yn bosibl nad oes gan rai grwpiau cymunedol llai y prosesau hyn ar waith felly gallwn hefyd ddarparu cymorth a thempledi ar gyfer digwyddiadau lle gallai fod angen i chi sicrhau eich bod wedi meddwl am risg ac iechyd a diogelwch.

Cysylltwch â’ch tîm Credydau Amser Tempo lleol.

Ni allwn gymryd cyfrifoldeb am weithdrefnau iechyd a diogelwch na derbyn cyfrifoldeb am unrhyw iawndal sy’n digwydd mewn gweithgareddau Credyd Amser Tempo a drefnir gan eich sefydliad, grŵp neu bartneriaid allanol.

A oes modd i staff ennill Credydau Amser Tempo?

Oes. Gall staff ennill Credydau Amser Tempo, er hynny, mae’n bwysig iawn bod unrhyw weithgareddau sy’n cael eu hennill yn cael eu gwahaniaethu’n glir oddi wrth eu gwaith arferol, nad ydynt yn cael eu cynnwys yn eu disgrifiad swydd a’u bod yn wirfoddol, er mwyn osgoi unrhyw awgrym o amnewid swydd.

Dylech hefyd fynd trwy unrhyw gamau y byddech yn eu cymryd gyda phobl eraill sy’n rhoi o’u hamser i’ch sefydliad.

Awgrymwn, er mwyn gwneud popeth yn hollol glir, eich bod yn gofyn i staff lofnodi ffurflen sy’n egluro na ddisgwylir gweithgaredd enillion o dan eu rôl gyflogedig a’i fod yn cael ei wneud yn wirfoddol.

Os caiff staff amser i ffwrdd gyda thâl gan eu gweithle i wirfoddoli, nid oes modd iddynt ennill Credydau Amser Tempo.

A oes modd i ymddiriedolwyr neu lywodraethwyr ysgol ennill Credydau Amser Tempo?

Oes. Mae’n bosibl i ymddiriedolwyr neu lywodraethwyr ysgol ennill Credydau Amser Tempo, er hynny, mae rhai ystyriaethau ymarferol. Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin ar y pwnc yma.

Rydym hefyd yn annog sefydliadau i ystyried sut y bydd Credydau Amser Tempo yn helpu i wella eu canlyniadau ac yn benodol cynnwys a chefnogi defnyddwyr eu gwasanaethau i chwarae rhan weithredol wrth ddylunio a darparu gweithgareddau.

A oes modd ôl-ddyddio Credydau Amser Tempo?

Nac oes. Ni ellir ôl-ddyddio Credydau Amser Tempo a dylid eu dosbarthu mor agos â phosibl at yr amser y cawsant eu hennill.

Mae hyn er mwyn osgoi gorlif o bobl yn defnyddio’r rhwydwaith lleol yn sydyn gyda niferoedd mawr o Gredydau Amser Tempo ac i osgoi unigolion rhag cael pentwr mawr o gredydau a all golli eu gwerth canfyddedig.

Fel grŵp neu wasanaeth pa gymorth allwn ni ddisgwyl ei dderbyn gan Tempo?

Nod Tempo yw darparu cymaint o gefnogaeth â phosib i grwpiau a gwasanaethau er mwyn sicrhau eich bod yn cael y gorau o Gredydau Amser Tempo.

Byddwn yn eich cefnogi i sefydlu Credydau Amser Tempo yn eich sefydliad neu wasanaeth, gan gynnwys cyfleoedd datblygu, ennill a chydnabod, cyfathrebu Credydau Amser Tempo, a deall gweinyddiaeth. Os yw’ch grŵp yn rhan o raglen, efallai y caiff ei wahodd i ddigwyddiadau rhwydwaith lleol hefyd.

CYSYLLTU Â NI

Cwestiwn heb ei ateb? Anfonwch neges atom gyda’ch ymholiad a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu gyda chi!