HOW IT WORKS

Beth yw Tempo?

Rydym yn elusen gofrestredig sy’n gweithio gyda mentrau cymunedol i annog ac ymgysylltu â phobl o bob cefndir i gymryd rhan a gwirfoddoli.

Darparwn gynllun gwobrwyo gwirfoddolwyr lle gall gwirfoddolwyr ennill Credydau Amser Tempo digidol y gellir eu cyfnewid am wasanaeth neu weithgaredd. Darperir y rhain gan ein rhwydwaith cenedlaethol o Bartneriaid Cydnabyddiaeth sydd yn eu hanfod yn fusnesau yr ydym yn gweithio gyda nhw trwy bartneriaethau elusennau corfforaethol.

AR GYFER PWY YDYW?

Mae Tempo ar eich cyfer CHI

Credwn bod gan bawb rywbeth y gallant ei gyfrannu at eu cymuned. Mae cymaint o wahanol ffyrdd o gymryd rhan a rhoi rhywbeth yn ôl, sy’n golygu bod rhywbeth at ddant pawb mewn gwirionedd.

Rydym yn cynnig y cyfle i’n gwirfoddolwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog, datblygu sgiliau newydd a chwrdd â phobl newydd, a hynny wrth ennill Credydau Amser Tempo. 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am sut mae cymryd rhan

Mae Tempo ar gyfer BUSNESAU

Rydym bob amser yn chwilio am fusnesau newydd i ymuno â’n rhwydwaith o Bartneriaid Cydnabyddiaeth.

Rydym yn cynnig partneriaeth unigryw i chi, wedi’i dylunio i adeiladu ymwybyddiaeth busnes, cefnogi eich amcanion a chyflawni targedau CSR. Yn gyfnewid am hyn, gofynnwn i chi hwyluso ein Credydau Amser Tempo, boed hynny’n cynnig ychydig o docynnau sinema sbâr neu daleb coffi mewn caffi. Mae croeso i bob busnes a sefydliad gymryd rhan a rhoi dim ond yr hyn y maent yn gallu.

Cliciwch yma i gwrdd â rhai o’n Partneriaid Cydnabyddiaeth.

Mae Tempo ar gyfer GRWPIAU CYMUNEDOL ac ELUSENNAU

Chwilio am ffordd i arloesi a denu gwirfoddolwyr newydd yn ogystal â chadw’r rhai presennol? Dewch yn un o’n grwpiau Ennill a defnyddiwch ein Credydau Amser Tempo i gydnabod a gwobrwyo eich gwirfoddolwyr. Gallant gyfnewid y rhain am weithgareddau, cynhyrchion a gwasanaethau a ddarperir gan ein Partneriaid Cydnabyddiaeth.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Mae Tempo ar gyfer AWDURDODAU LLEOL, TAI, DARPARWYR GWASANAETHAU AC ARIANWYR GRANT

Cymerwch ran a rhowch yn ôl trwy ariannu rhaglen Credydau Amser Tempo ar gyfer eich ardal. Helpwch i adeiladu cymunedau cryfach, cefnogwch fusnesau a sefydliadau lleol. Hefyd ewch ati i hyrwyddo cynhwysiant a chyfleoedd teg i bawb.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy

SUT MAE POBL YN ENNILL CREDYDAU AMSER

Gall unrhyw wirfoddolwr o fewn unrhyw grŵp cymunedol, gwasanaeth neu sefydliad sy’n rhan o’n rhwydwaith Tempo (ein grwpiau Gwobrwyo) ennill Credydau Amser Tempo.

Mae’r unigolyn yn derbyn credydau am eu hamser yn cefnogi pobl eraill neu’n cyfrannu at eu cymuned leol.
Dyma rai enghreifftiau o sut y gellir eu hennill:

Gellir ennill Credydau Amser Tempo mewn unrhyw grŵp cymunedol, gwasanaeth neu sefydliad sydd wedi ymuno â rhwydwaith Tempo. Gellir eu hennill am unrhyw weithgaredd lle mae rhywun yn rhoi o’i amser yn wirfoddol i gefnogi pobl eraill neu gyfrannu at eu cymuned leol.

Enghreifftiau o ffyrdd y mae pobl wedi ennill yn y gorffennol:

● Cyfeillio, cefnogaeth cyfoedion a chymorth bydi
● Rhannu sgiliau neu brofiadau i wella neu ddylunio gwasanaethau
● Helpu i gynnal a chadw neu wella mannau awyr agored

A oes gennych ddiddordeb mewn ennill Credydau Amser Tempo? Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ar ddod yn Wirfoddolwr neu yma am fwy o wybodaeth am ddod yn un o’n Grwpiau Gwobrwyo.

CYSYLLTWCH Â NI

Eisiau gwybod mwy? Cysylltwch ac fe fydd aelod o’n tîm yn gallu eich cynorthwyo gyda’ch ymholiad.