Un o nodweddion diffiniol ein cenedl yw bod ysbryd cymunedol yn aml yn codi o drallod mewn cyfnod anodd. Fel rhan o fy swydd, rwy’n ddigon ffodus i gael fy syfrdanu gan y straeon niferus am unigolion a grwpiau sy’n cefnogi eu cymunedau, hyd yn oed ar ôl profi caledi, ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn.
Rydym yma i alluogi unigolion a grwpiau amrywiol i feithrin gallu, gan anelu at adael set o sefydliadau a all gynnal eu hunain. Gwnawn hyn gyda, ac ar gyfer cymunedau, wedi’i hwyluso gan bartneriaethau hollbwysig gyda nifer o sefydliadau eraill. Dyma yw ein hetifeddiaeth.
Credydau Amser Tempo sy’n darparu’r glud sy’n clymu partneriaethau ac yn eu cynnal i’r dyfodol. Mae gan Gredydau Amser Tempo hanes hir. Rydym wedi dod â nhw i’r presennol drwy ddarparu datrysiad digidol, tra hefyd yn darparu ar gyfer y rhai sydd wedi’u heithrio’n ddigidol.
Rydym yn benderfynol o adeiladu ar y tyrfa enfawr o bobl sydd eisiau gwirfoddoli, gweithio gydag eraill i fanteisio ar hyn a hefyd ceisio ehangu’r sbectrwm, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer unrhyw un o unrhyw sefyllfa i wirfoddoli.
Rachel Gegeshidze – CEO