Helô, hoffem sôn ychydig yn fwy wrthych am ein Polisïau Preifatrwydd a Data.

Mae hyn yn bwysig, felly darllenwch y wybodaeth ganlynol. Rydym wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd, ac egluro sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth a ddaliwn. Mae’r Polisi hwn yn esbonio pryd a pham rydym yn casglu gwybodaeth bersonol am aelodau Credydau Amser, a sut rydym yn ei defnyddio.

Efallai y bydd angen i ni newid y polisi hwn weithiau, felly cyfeiriwch yn ôl at y dudalen hon o bryd i’w gilydd i wneud yn siŵr eich bod yn fodlon ar unrhyw newidiadau. Diweddarwyd y Polisi hwn ddiwethaf ym mis Ebrill 2024.



Pwy ydym ni?

Tempo ydym ni ac rydym yn gweithredu Credydau Amser ledled y Deyrnas Unedig. Rydym wedi’n cofrestru fel elusen yng Nghymru a Lloegr gyda’r Rhif Elusen 1135143. Ein cyfeiriad cofrestredig yw The Maltings, East Tyndall Street, Cardiff, CF24 5EA.



Sut ydym yn casglu gwybodaeth gennych?

I weithredu ein Rhwydwaith Credydau Amser, gofynnwn i chi roi gwybodaeth bersonol i ni mewn sawl ffordd.
• trwy ein ffurflen Aelodaeth pan fyddwch yn cofrestru i ennill Credydau Amser
• pan fyddwch yn cofrestru i gael ein cylchlythyrau
• pan fyddwch yn ein helpu i werthuso ein gwaith Credydau Amser.



Pa fath o wybodaeth sy’n cael ei chasglu gennych?

Os ydych eisiau i ni anfon cylchlythyrau a deunydd marchnata atoch, byddwn yn casglu eich enw, eich cyfeiriad, teitl eich swydd a’r sefydliad rydych yn gweithio iddo (os yw’n berthnasol), eich cyfeiriad e-bost, eich cyfeiriad IP, a gwybodaeth am ba dudalennau rydych yn ymweld â nhw ar ein gwefan.

Os byddwch yn dod yn aelod Credydau Amser, byddwn yn casglu eich enw, eich cyfeiriad, eich cyfeiriad e-bost a’ch dyddiad geni. Gofynnwn am eich caniatâd i gasglu gwybodaeth am eich iechyd, eich incwm a’ch ethnigrwydd hefyd i’n helpu i ddysgu pwy sy’n defnyddio ein gwasanaethau fel y gallwn eu gwella.



Sut mae eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio?

Efallai byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth i:
• ddarparu gwasanaethau yn rhan o’ch aelodaeth Credydau Amser, fel rhannu cyfleoedd i ennill a defnyddio Credydau Amser, a chofnodi eich cyfleoedd i ennill Credydau Amser.
• cofnodi eich balansau a’ch trafodion Credydau Amser yn y dyfodol.
• darparu cylchlythyrau a marchnata ynglÅ·n â’n gwasanaethau rydych wedi dewis eu derbyn. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth am brynu gwasanaethau Credydau Amser, gwasanaethau newydd rydym yn eu cynnig neu gyfleoedd i ennill neu ddefnyddio Credydau Amser.
• cyflawni ein rhwymedigaethau sy’n deillio o unrhyw gontractau sy’n cael eu llunio rhyngoch chi a ni;
• helpu i werthuso ein gwasanaethau fel y gallwn eu gwella.
• Ceisio eich barn neu eich sylwadau ar y gwasanaethau a ddarparwn.
• Rhoi gwybod i chi am newidiadau i’n gwasanaethau.
• Prosesu cais am grant neu swydd.



Pwy sy’n gallu cael at eich gwybodaeth?

Os ydych wedi darparu eich gwybodaeth i dderbyn cylchlythyrau neu ddeunydd marchnata, ni fydd Tempo byth yn rhannu nac yn gwerthu eich gwybodaeth i unrhyw un arall. Dim ond Tempo fydd yn defnyddio’r wybodaeth hon.

Os ydym wedi casglu’ch gwybodaeth bersonol i ymuno â’r Rhwydwaith Credydau Amser, bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu ac ar gael i Tempo, y grwpiau neu’r sefydliadau gwirfoddol rydych yn ennill Credydau Amser gyda nhw a’n partner gwerthuso annibynnol. Gofynnwn am eich caniatâd i rannu’ch gwybodaeth gyda’r sefydliadau hyn pan fyddwch yn ymuno â’r Rhwydwaith, ac mae angen i ni wneud hyn fel y gallwn ddarparu’r gwasanaeth Credydau Amser i chi. Os ydych wedi cytuno, efallai y byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth gyda chyllidwr eich Rhwydwaith Credydau Amser lleol, er enghraifft, os yw’ch Cyngor lleol yn cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal eich Rhwydwaith Credydau Amser.

Mae Darparwyr Gwasanaethau Trydydd Parti sy’n gweithio ar ein rhan yn ein helpu i ddarparu’r Rhwydwaith Credydau Amser hefyd. Pan fyddwn yn defnyddio darparwyr gwasanaethau trydydd parti, byddwn ond yn rhannu’r wybodaeth bersonol sy’n angenrheidiol i ddarparu’r gwasanaeth, ac mae gennym gontract ar waith sy’n mynnu eu bod yn cadw’ch gwybodaeth yn ddiogel ac nad ydynt yn ei defnyddio ar gyfer eu dibenion marchnata uniongyrchol eu hunain.

Efallai y bydd adegau pan fydd rhaid i ni rannu’ch gwybodaeth yn ôl y gyfraith, er enghraifft, trwy orchymyn llys neu er mwyn atal twyll neu drosedd arall.



Am ba mor hir byddwn yn cadw’ch gwybodaeth?

Os ydych yn aelod o’r Rhwydwaith Credydau Amser, byddwn yn cadw’ch gwybodaeth ar hyd cyfnod eich aelodaeth, ac yn dileu eich data’n ddiogel o fewn 18 mis o gael gwybod eich bod wedi gadael y Rhwydwaith. Os ydych wedi cofrestru i gael ein cylchlythyrau, byddwn yn cadw’ch gwybodaeth hyd nes y dewiswch ddatdanysgrifio o’r gwasanaeth. Weithiau, mae’n ofynnol i ni gadw’ch gwybodaeth am gyfnod hwy na hyn i fodloni cyfraith y Deyrnas Unedig.

 



Sut gallwch ofyn i ni ddiweddaru’r wybodaeth sydd gennym amdanoch, neu ofyn am gael eich dileu o’n cofnodion?

Gallwch gysylltu â ni i newid y wybodaeth sydd gennym amdanoch, sut hoffech i ni gysylltu â chi neu ddileu eich gwybodaeth yn ddiogel o’n cofnodion unrhyw bryd:
Os nad ydych eisiau cael cylchlythyrau neu ddeunyddiau marchnata, gallwch optio allan trwy:
• glicio ar y ddolen ‘datdanysgrifio’ ar waelod cylchlythyrau
• cysylltu â: hello@wearetempo.org
• ein ffonio ni ar 029 2056 6132

 



Os ydych yn aelod o’r Rhwydwaith Credydau Amser ac eisiau newid y wybodaeth sydd gennym amdanoch, neu derfynu eich aelodaeth Credydau Amser, gallwch:
• Gysylltu â’r grŵp neu’r sefydliad rydych yn ennill Credydau Amser gydag ef a gofyn iddo ddiweddaru’r wybodaeth sydd gennym amdanoch neu eich dileu o’r Rhwydwaith.
• Anfon neges e-bost at: hello@wearetempo.org
• Ein ffonio ni ar 029 2056 6132

 



Gwasanaethau ar-lein a phreifatrwydd
Mae Tempo yn defnyddio nifer o wasanaethau ar-lein i ddarparu Credydau Amser.

Pan fyddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol i ni dros y rhyngrwyd, byddwn yn cymryd camau i sicrhau ei bod yn cael ei thrin yn ddiogel.
Bydd unrhyw wybodaeth sensitif yn cael ei hamgryptio a’i diogelu gan ddefnyddio’r feddalwedd ganlynol: amgryptiad 128 Bit ar SSL.

Bydd manylion nad ydynt yn sensitif (eich cyfeiriad e-bost ac ati) yn cael eu trosglwyddo dros y rhyngrwyd yn y modd arferol, ac ni ellir byth gwarantu bod hyn 100% yn ddiogel. O ganlyniad, er yr ymdrechwn i ddiogelu’ch gwybodaeth bersonol, ni allwn warantu diogelwch unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei hanfon atom ni, ac rydych yn gwneud hynny ar eich menter eich hun. Pan fyddwn yn derbyn eich gwybodaeth, gwnawn ein gorau i sicrhau ei bod yn ddiogel ar ein systemau.

 



Ble rydym yn storio’ch gwybodaeth ar y rhyngrwyd?

Rydym yn sicrhau bod yr holl wasanaethau a ddefnyddiwn i storio’ch gwybodaeth yn cael eu dal ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd (“UE”). Fodd bynnag, weithiau efallai y byddwn yn defnyddio gwasanaethau trydydd parti sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r UE. Mae’n bosibl na fydd gan y gwledydd hyn ddeddfau diogelu data tebyg i’r Deyrnas Unedig.

Trwy gyflwyno’ch data personol i ni, rydych yn cytuno iddo gael ei drosglwyddo, ei storio neu ei brosesu yn y modd hwn. Os byddwn yn trosglwyddo’ch gwybodaeth y tu allan i’r UE yn y modd hwn, byddwn yn cymryd camau i sicrhau bod mesurau diogelwch priodol yn cael eu cymryd gyda’r bwriad o sicrhau bod eich hawliau preifatrwydd yn parhau i gael eu diogelu fel yr amlinellir yn y Polisi hwn.

 



Defnyddio ‘cwcis’

Mae ein gwefan ni’n defnyddio cwcis, fel llawer o wefannau eraill. Darnau bach o wybodaeth yw ‘cwcis’ sy’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur, eich tabled neu’ch ffôn clyfar, ac maen nhw’n ein helpu i roi profiad gwell i chi ar-lein. Maen nhw’n casglu data ystadegol am eich gweithredoedd a’ch patrymau pori ac nid ydynt yn eich adnabod chi fel unigolyn.

Os nad ydych eisiau i ni ddefnyddio cwcis, gallwch ddiffodd defnyddio cwcis yn eich porwr rhyngrwyd.