FEL LLYSGENNAD GWIRFODDOL
• Hyfforddiant – sesiwn hyfforddi 0.5 diwrnod.
• Fforymau rhwydwaith llysgenhadon misol.
• Cymorth parhaus agored a thryloyw gan Tempo.
• Bod yn rhan o’ch cymuned leol a chymuned ehangach Credydau Amser Tempo.
• Ennill Credydau Amser Tempo.
• Mynediad at gannoedd o gyfleoedd cydnabyddiaeth ar draws y wlad.
• Cyfrannu at ddatrys heriau ac anghenion eich ardal leol.
• Cymorth gan Tempo ac arweinydd eich grŵp lleol.
• Cyfarfod â phobl newydd, gwneud ffrindiau newydd a rhoi hwb i’ch CV.
HELPWCH EIN RHWYDWAITH CENEDLAETHOL I DYFU
Mae 750+ o bartneriaid cydnabyddiaeth yn ein rhwydwaith.
Mae 50,000+ o bobl wedi ennill Credydau Amser Tempo hyd yma.
Mae mwy nag 1,000,000 o Gredydau Amser Tempo wedi cael eu hennill ledled y Deyrnas Unedig.
CYSYLLTWCH Â NI
Cysylltwch â thîm Tempo gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl.
SUT MAE'N GWEITHIO
Mae llysgenhadon ein Helusen yn helpu i roi'r si ar led, gan ganiatáu i ni helpu'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Mae gwirfoddolwyr yn ennill Credydau Amser Tempo i gydnabod yr amser a'r ymdrech maen nhw'n eu rhoi i'w cymuned leol. Yna, gallant ddefnyddio Credydau Amser Tempo ar weithgareddau gyda'n partneriaid cydnabyddiaeth.
1. CYSYLLTWCH Â NI
Cysylltwch ag aelod o dîm Tempo:
Ff: 029 2056 6132
E: hello@wearetempo.org
2. SESIWN HYFFORDDI
Dilynwch sesiwn hyfforddi Credydau Amser Tempo a chael pecyn adnoddau Llysgennad Tempo i ddysgu am yr holl waith y mae Tempo yn ei wneud.
3. DERBYN CREDYDAU AMSER TEMPO
Dechreuwch dderbyn Credydau Amser Tempo am eich cyfraniad. Gallwch ddefnyddio’r rhain gydag unrhyw bartner cydnabyddiaeth yn y Deyrnas Unedig!
4. HYRWYDDO
Hyrwyddwch waith Tempo yn lleol ac ar-lein, gan rannu eich gwybodaeth am gyfleoedd i ennill a chael cydnabyddiaeth.
5. MYNYCHU DIGWYDDIADAU
Cymerwch ran mewn digwyddiadau, fforymau a hyfforddiant Tempo, fel y dewiswch.
6. DOD YN LLAIS CADARNHAOL I'CH CYMUNED
Helpwch i greu newid cymdeithasol cadarnhaol. Bydd eich llais yn codi proffil Credydau Amser Tempo ac yn annog cyfranogiad cymunedol, gan greu cymunedau cynhwysol a chyfartal.