SUT MAE CREDYDAU AMSER TEMPO YN GWEITHIO?
Mae pobl yn ennill Credydau Amser Tempo trwy helpu mewn grŵp neu wasanaeth cymunedol sy'n rhan o rwydwaith Tempo. Maen nhw'n defnyddio Credydau Amser Tempo ar weithgareddau difyr gyda ffrindiau a theulu, a ddarperir gan ein rhwydwaith o Bartneriaid Cydnabyddiaeth.
PWY SY'N GALLU CYMRYD RHAN?
UNIGOLION
Gall unigolion ennill a defnyddio Credydau Amser Tempo. Credwn fod pawb yn gallu cynnig rhywbeth i’w cymuned. Gallwch dreulio amser yn gwneud gweithgareddau difyr gydag eraill neu ddysgu sgiliau newydd – heb wario arian!
BUSNESAU
Gall busnesau gofrestru i dderbyn Credydau Amser Tempo. Gallwch ddenu pobl newydd nad ydynt wedi ymweld o’r blaen ac ennill cwsmeriaid newydd posibl, cynyddu eich enw da trwy ein dulliau marchnata, ennill mantais ar eich cystadleuwyr a chyflawni targedau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.
AWDURDODAU LLEOL, GRWPIAU COMISIYNU CLINIGOL, DARPARWYR TAI, DARPARWYR GWASANAETHAU A CHYLLIDWYR GRANTIAU
Gall awdurdodau lleol, grwpiau comisiynu clinigol, darparwyr tai, darparwyr gwasanaethau a chyllidwyr grantiau ariannu rhaglen Credydau Amser Tempo ar gyfer eu hardal neu gymuned. Gallwch wella canlyniadau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau, a chynyddu gwirfoddoli a chyfranogiad i gyflawni canlyniadau cymdeithasol, yn unol â blaenoriaethau lleol.
GRWPIAU CYMUNEDOL AC ELUSENNAU
Gall grwpiau cymunedol ac elusennau gofrestru i ddefnyddio Credydau Amser Tempo gyda’u gwirfoddolwyr. Gallwch roi cynnig ar ffordd arloesol o ddenu, cadw a diolch i wirfoddolwyr, cynyddu ymgysylltiad â gwasanaethau a sicrhau’r cyfranogiad cymunedol mwyaf posibl.
SUT MAE POBL YN ENNILL CREDYDAU AMSER TEMPO?
Gellir ennill Credydau Amser Tempo mewn unrhyw grŵp, gwasanaeth neu sefydliad cymunedol sydd wedi ymuno â rhwydwaith Tempo. Gellir eu hennill am unrhyw weithgaredd lle mae rhywun yn rhoi o’i amser yn wirfoddol i gynorthwyo pobl eraill neu gyfrannu at ei gymuned leol.
Dyma enghreifftiau o ffyrdd y gall pobl ennill Credydau Amser Tempo:
– Cyfeillio a chymorth gan gymheiriaid
– Rhannu sgiliau neu brofiadau i wella neu ddylunio gwasanaethau
– Helpu i gynnal neu wella mannau awyr agored
– Cefnogi a sefydlu grwpiau cymunedol
– Gweinyddiaeth
– Helpu i gynnal gwasanaethau neu weithgareddau, fel helpu mewn caffi neu arwain dosbarth celf
Bydd grŵp neu wasanaeth cymunedol yn cael Credydau Amser Tempo pan fydd yn cofrestru i ymuno â’r rhwydwaith, ac yna bydd yn eu rhoi i’w wirfoddolwyr ar ôl iddynt wneud y gweithgaredd.
I chwilio am leoedd i ennill Credydau Amser Tempo, ewch i www.timecredits.com.
Gallwch gysylltu â grwpiau’n uniongyrchol i wirfoddoli gyda nhw.
EIN RHWYDWAITH O BARTNERIAID CYDNABYDDIAETH
Gellir defnyddio Credydau Amser Tempo ar amrywiaeth eang o weithgareddau gyda rhwydwaith Tempo o bartneriaid gwobrwyo. Gallwch ddefnyddio Credydau Amser Tempo yn unrhyw un o’n lleoliadau ledled y Deyrnas Unedig, ni waeth ble yr enilloch chi nhw.
Dyma enghreifftiau o ffyrdd y mae pobl yn defnyddio Credydau Amser Tempo:
– Mynd i oriel gelf neu i’r theatr
– Ymweld â lleoliad hanesyddol
– Cwblhau cwrs hyfforddi
– Mynd i ddosbarthiadau ioga neu ffitrwydd
– Cael triniaeth harddwch neu mewn sba
– Mynd i nofio neu i’r gampfa
– Mynd i ddigwyddiadau chwaraeon neu gerddoriaethÂ
I weld y rhestr lawn o leoedd i ddefnyddio Credydau Amser Tempo ac unrhyw ofynion archebu, ewch i www.timecredits.com.
CYSYLLTWCH Â NI
Cysylltwch â thîm Tempo gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl.