BUDDION I WIRFODDOLWYR

• Ennill Credydau Amser Tempo.
• Mynediad at gannoedd o gyfleoedd i ddefnyddio Credydau
Amser Tempo ar draws y wlad
• Gwneud ffrindiau a chysylltiadau newydd
• Dysgu sgiliau newydd, rhoi hwb i’ch CV a magu hyder
• Ennill cydnabyddiaeth a threulio amser gyda ffrindiau a theulu
• Cymorth parhaus agored a thryloyw gan Tempo
• Dod o hyd i’ch lle yn eich cymuned leol a bod yn rhan o fudiad
cenedlaethol Tempo
• Helpu i ganfod a ffurfio datrysiadau i broblemau lleol sy’n
effeithio ar eich cymdogaeth

YMUNWCH Â'N RHWYDWAITH CENEDLAETHOL

Mae 750+ o bartneriaid cydnabyddiaeth yn ein rhwydwaith
Mae 50,000+ o bobl wedi ennill Credydau Amser Tempo hyd
yma
Mae mwy nag 1,000,000 o Gredydau Amser Tempo wedi cael eu
hennill ledled y Deyrnas Unedig

CYSYLLTWCH Â NI

Cysylltwch â thîm Tempo gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl.

    SUT MAE'N GWEITHIO

    Rydych yn ennill Credydau Amser Tempo yn gyfnewid am eich amser fel gwirfoddolwr.
    Yna, gallwch ddefnyddio’ch Credydau Amser Tempo ar weithgareddau gyda’n partneriaid lleol a chenedlaethol.

    1. CYSYLLTWCH Â NI

    Cysylltwch ag aelod o ddîm Tempo ar:
    Ff: 029 2056 6132
    E: hello@wearetempo.org

    2. COFRESTRU

    Cofrestrwch i greu eich cyfrif Credydau Amser Tempo ar-lein.

    3. DOD O HYD I FFYRDD O WIRFODDOLI

    Chwiliwch am ffyrdd o helpu grwpiau a gwasanaethau cymunedol yn ‘Ennill Credydau Amser Tempo’. I ddiolch i chi, bydd Credydau Amser Tempo yn cael eu hychwanegu’n syth at eich cyfrif ar-lein.

    4. GWIRIO'CH BALANS

    Gallwch wirio faint o Gredydau Amser Tempo sydd gennych a gweld lle rydych wedi’u hennill a’u defnyddio yn ‘Fy Hanes Credydau Amser’.

    5. MWYNHAU GWEITHGAREDDAU DIFYR

    Chwiliwch am weithgareddau difyr y gallwch eu gwneud gyda Chredydau Amser Tempo yn ‘Defnyddio Credydau Amser Tempo’. Defnyddiwch eich Rhif Adnabod Aelodaeth yn y lleoliad i archebu o flaen llaw neu i gael cod mynediad ar-lein. Gallwch weld ein partneriaid cydnnabyddiaeth yn www.timecredits.com

    6. DOD YN RHAN O GYMUNED TEMPO

    Gallwch ennill, gwneud ffrindiau a defnyddio Credydau Amser Tempo tra’n gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned!