Neges gan ein Prif Swyddog Gweithredol:
Yn y cyfnod anodd hwn, mae ysbryd cymunedol yn codi o adfyd. Dyma un o nodweddion diffiniol ein gwledydd. Felly hefyd o ran Covid19. Mae’r straeon di-rif am unigolion a grwpiau sy’n cynorthwyo eu cymunedau, ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn, yn gwneud i mi deimlo’n wylaidd.
Rydym ni yma i alluogi unigolion a grwpiau amrywiol i ffurfio a chynnal eu cymunedau eu hunain. Rydym yn gwneud hyn gyda chymunedau ac ar eu rhan ac, yn hollbwysig, rydym yn ei wneud mewn partneriaeth â llawer o sefydliadau eraill. Trwy ein gwasanaethau, rydym yn cynyddu gallu a chapasiti, gyda’r nod o adael grŵp o sefydliadau sy’n gallu cynnal eu hunain. Dyma ein gwaddol.
Credydau Amser Tempo yw’r hyn sy’n glynu partneriaethau at ei gilydd a’u cynnal ar gyfer y dyfodol. Mae gan Gredydau Amser Tempo hanes hir. Rydym wedi eu haddasu i’r presennol trwy ddarparu datrysiad digidol, ar yr un pryd â darparu ar gyfer y rhai sydd wedi’u heithrio’n ddigidol.
Rydym yn benderfynol o adeiladu ar y cynnydd enfawr yn nifer y bobl sydd eisiau gwirfoddoli. Byddwn yn gweithio gydag eraill i fanteisio ar hyn a hefyd yn ceisio ehangu sbectrwm y rhai sy’n gwirfoddoli. Mae Covid19 yn difrodi ein cymunedau, ond byddwn oll yn dod allan ohoni’n gryfach. Gobeithiwn y gallwn chwarae rhan fach yn y broses honno.

Mark Froud – Prif Swyddog Gweithredol

CYFLWYNO EIN HYMDDIRIEDOLWYR

RON JARMAN
CADEIRYDD
Mae Ron wedi dilyn gyrfa fel gweithiwr proffesiynol ym maes Caffael a Chadwyn Gyflenwi ac mae’n gyn-Lywydd y Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi. Ac yntau wedi cyflawni nifer o rolau llinell arwain ac ymgynghori ar yr ochr prynu a gwerthu, mae Ron wedi “lled-ymddeol” erbyn hyn ac mae’n cadw’n brysur gyda phortffolio cymysg o rolau fel Cyfarwyddwr Anweithredol, Ymddiriedolwr a chynghorydd/ymgynghorydd. Mae Ron yn feiciwr brwd sydd wedi trefnu a chymryd rhan mewn dwy daith feicio o Lundain i Baris ar gyfer elusen yn flaenorol, yn ogystal â sawl taith ar draws Norwy ar gyfer World Play, y mae’n Gadeirydd eu bwrdd Ymddiriedolwyr hefyd.

STUART MULLIN
TRYSORYDD
Mae Stuart yn weithiwr cyllid proffesiynol ac yn aelod o ICAEW ers cymhwyso ym 1994. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Cyllid Wall to Wall Television, Prif Swyddog Ariannol yn Simon & Schuster UK (gyda chyfrifoldeb am y Deyrnas Unedig, Ewrop ac Awstralia) a Phrif Swyddog Ariannol/Prif Swyddog Gweithredu yn Argonon. Mae Stuart yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar y cyd Greenbird Media Ltd ar hyn o bryd.

SIDDHI TRIVEDI
Mae Siddhi yn entrepreneur arobryn sy’n canolbwyntio ar arloesi cymdeithasol i gyflawni nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Mae hi’n asiant brwd dros newid ac yn aelod o fwrdd sawl melin drafod a grŵp eirioli sy’n gwella iechyd a lles trwy ddefnyddio technolegau deallusrwydd artiffisial a blocgadwyn. Uchelgais Siddhi yw pontio’r bwlch sgiliau technoleg rhwng y rhywiau ac mae hi wedi sefydlu platfform i ysbrydoli merched i godio a dilyn gyrfaoedd mewn technoleg. A hithau’n ddeiliad trwydded TEDx, mae’n arwain tîm o wirfoddolwyr sydd yn troi syniadau ysbrydoledig ac arloesol yn weithredoedd i drawsnewid cymunedau lleol.

JOHN PUZEY
Mae John wedi ymddeol yn ddiweddar wedi 40 mlynedd fel ymgyrchwr tai a digartrefedd, a’r ddeng mlynedd ar hugain diwethaf fel Prif Swyddog Gweithredol Shelter Cymru, sy’n elusen annibynnol yng Nghymru. Yn ystod arweinyddiaeth John mae Shelter Cymru wedi tyfu i fod yn un o’r elusennau mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu cyngor arbenigol ar dai ym mhob ardal awdurdod lleol a chydag enw da iawn am ei gwaith ymchwil, polisi ac ymgyrchu.
Mae John wedi gwasanaethu ar nifer o gyrff cynghori Gweinidogol a thasgluoedd Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â mynd i’r afael â materion digartrefedd, tai a thlodi, a chyfrannodd yn fwyaf diweddar at strategaeth ddigartrefedd bresennol Llywodraeth Cymru. Mae wedi datblygu profiad ac arbenigedd sylweddol ym maes cynllunio ac arwain strategol, strategaethau cyfathrebu a chyfryngau, a lobïo ac ymgyrchu.

KIERAN JONES
Mae Kieran yn rheolwr prosiect ym maes gwasanaethau ariannol. Mae wedi arwain prosiectau mawr gan gynnwys trefniadaeth weithredol canolfan seiberddiogelwch a rhaglen mynediad at arian parod genedlaethol, ac mae’n rheoli partneriaeth gyhoeddus-breifat sy’n cefnogi cydweithio yn y diwydiant i wneud y sector yn fwy cydnerth. Mae wedi gweithio ym maes llywodraethu corfforaethol yn flaenorol ac mae ganddo MSc mewn Rheoli gydag ymchwil yn canolbwyntio ar gydweithio strategol.

ANNA LEWIS
Mae Anna yn cynnal portffolio o rolau ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, gan gynnwys fel cyfarwyddwr anweithredol y GIG, Ymddiriedolwr, ymgynghorydd annibynnol, a hyfforddwr gweithredol. Mae ei chefndir ym maes uwch reoli’r GIG, yn bennaf dylunio, darparu a gwella gwasanaethau iechyd meddwl a gofal cymdeithasol integredig.

DAVID ROYCE
Roedd David yn brif weithredwr yr elusen CRI am 19 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, tyfodd o fod yn sefydliad lleol bach i fod yn ddarparwr cenedlaethol blaenllaw gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gyda throsiant o £116m a chronfeydd wrth gefn o £14m. Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, cynyddodd nifer y defnyddwyr gwasanaethau o 90 o bobl y flwyddyn i 42,000 yr wythnos. Yr elusen oedd y darparwr arbenigol sengl mwyaf o wasanaethau adfer o gaethiwed yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Ymddiriedolaeth y GIG.

NEAL HOUNSELL
Ymddeolodd Neal yn ddiweddar ar ôl gyrfa 40 mlynedd mewn llywodraeth leol, yn gweithio fel llyfrgellydd, arolygydd y Comisiwn Archwilio ac, yn olaf, fel comisiynydd gwasanaethau tai, gofal cymdeithasol ac iechyd y cyhoedd yng Nghorfforaeth Dinas Llundain. Ar hyn o bryd, mae’n gwirfoddoli fel cyfeillachwr, mae’n gweithio yn ei fanc bwyd lleol, ac mae’n ymddiriedolwr ar gyfer Tempo. Ymunodd â Bwrdd Tempo ym mis Chwefror 2018 ar ôl eu comisiynu’n flaenorol i weithio yn Ninas Llundain, a chredai mai dyna oedd un o’r prosiectau mwyaf arloesol a chyffrous iddo ymwneud ag ef.

ADAM STANLEY
Mae Adam yn gweithio yn y trydydd sector gan arwain newid trawsffurfiol. Yn flaenorol, bu’n rheoli arloesedd ar gyfer Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, gan amlygu ffyrdd creadigol iddynt weithio’n fwy effeithlon a gwasanaethu eu dinasyddion yn well. Cyn hynny, gweithiodd ym maes rheoli manwerthu a chyflawnodd amrywiaeth o rolau rheoli ar y rheilffyrdd. Mae Adam wedi ennill sawl gwobr ranbarthol a chenedlaethol am arloesiadau y mae wedi cyfrannu atynt, gan gyflawni buddion sylweddol i gleientiaid. Mae Adam yn cyfrannu’n bennaf at waith strategaeth ddigidol a darparu Tempo.

MARC GIRAUDON
Mae Marc wedi gweithio mewn nifer o sefydliadau, gan gynnwys fel Prif Swyddog Ariannol Ewropeaidd Cwmni Eiddo Tirol AUM $20Bn, mewn busnesau bach a chanolig (BBaChau) (cyd-sylfaenydd gweinyddwr trydydd parti byd-eang) a busnesau cychwynnol (gan gynnwys yn y sector technoleg a sector y cyfryngau) cyn ymgynghori a buddsoddi mewn cleientiaid BBaCh. Mae Marc yn gyfrifydd sydd â B.Sc. ac MBA o Ysgol Fusnes Llundain. Pan nad yw yn y gwaith, boed hynny’n hwylio o gwmpas Gogledd Ffrainc a’r Arfordir y De, rasio yn y Solent, neu’n cael hwyl yn syml, mae Marc yn treulio llawer o’i amser sbâr yn “chwarae o gwmpas ar y dŵr”. Mae hefyd yn ymddiriedolwr sawl elusen, gan gyfrannu at wneud y byd yn lle gwell a mwy caredig.

ANDREW FOX
Andrew yw Prif Swyddog Dylunio a Phennaeth Marchnata Peach, sef cwmni hysbysebu digidol. Mae gan Andrew dri degawd o brofiad yn y sector dylunio a phrofiad defnyddwyr, ac mae hefyd yn arbenigwr ar frandio a chyfathrebu. Mae’n cyfrannu’r holl sgiliau hyn at ddatblygu a gweithredu strategaeth newydd Tempo.

TOM EBBUTT
Tom yw Rheolwr Gyfarwyddwr On Purpose, sef cymuned ar gyfer arweinwyr sy’n gweithio i greu economi a chymdeithas sy’n gweithio i bawb. Bu’n Brif Swyddog Gweithredu yn Ambition School Leadership gynt, sef menter gymdeithasol sy’n ddarparwr mwyaf Lloegr o ddatblygiad ar gyfer arweinwyr ysgolion sy’n gweithio gyda chymunedau difreintiedig, a Phartner Menter yn Ark Ventures. Rhwng 2010 a 2018, roedd yn Gynghorydd etholedig ar gyfer Cyngor Hackney. Mae’n Ymddiriedolwr y Sefydliad Marchnad Gymdeithasol ac yn cadeirio Pwyllgor Llywio’r cynllun adfywio tai cymdeithasol mwyaf yn Llundain a arweinir gan breswylwyr.
SUT MAE'N GWEITHIO
Mae’r cysyniad yn syml: Gall pobl ennill Credydau Amser Tempo pan fyddant yn gwirfoddoli gydag elusen neu grŵp cymunedol sy’n rhan o rwydwaith Tempo ac yna gallant ddefnyddio eu Credydau Amser Tempo ar amrywiaeth eang o weithgareddau, cynhyrchion a gwasanaethau o’u dewis. Darperir y gweithgareddau hyn gan ein rhwydwaith cenedlaethol o bartneriaid cydnabyddiaeth, ac maen nhw’n hanfodol i sicrhau bod y gwirfoddolwyr yn cael eu cydnabod am eu gwaith amhrisiadwy.
GWYLIWCH EIN FIDEO. STORI GWIRFODDOLWR
EIN GWELEDIGAETH
Mae Credydau Amser Tempo yn gweithio i greu byd lle mae cymunedau’n datblygu eu hunain trwy alluogi mwy o unigolion a grwpiau mwy amrywiol o bobl i wirfoddoli a chefnogi eu cymunedau lleol. Rydym yn ceisio datblygu cymunedau lle mae gwaith gyda thâl a gwaith gwirfoddol yn cael eu trin â’r un parch.
