ANNOG CYFRANOGIAD GWEITHREDOL A DATBLYGU ASEDAU YN EICH CYMUNEDAU
Mae Credydau Amser Tempo yn gweithio mewn partneriaeth i gydgynhyrchu datrysiadau ac annog cyfranogiad mwy gweithredol mewn dylunio a darparu gwasanaethau a gweithgareddau a arweinir gan gymunedau.
Rydym yn falch o fod yn ddarparwr fframwaith Credydau Amser Tempo YPO. Gellir ein comisiynu drwy'r fframwaith yma gan ddarparu llwybr cydymffurfiol i'r sector cyhoeddus i'r farchnad a chaniatáu i'n gwasanaethau gael eu comisiynu yn hawdd.
SBARDUNO YMGYSYLLTIAD Â GWASANAETHAU
• Gall Credydau Amser Tempo eich helpu i ymgysylltu â chynulleidfaoedd targed allweddol i gyflawni nodau penodol (e.e. lleihau unigrwydd, cynyddu cyfranogiad grwpiau oedolion agored i niwed).
• Gellir defnyddio Credydau Amser Tempo i uwchsgilio grwpiau o fuddiolwyr neu ddefnyddwyr gwasanaethau.
CYNYDDU CYFRANOGIAD CYMUNEDOL I'R EITHAF
Annog defnyddwyr gwasanaethau i ymgysylltu mwy trwy greu cyfleoedd newydd i gymryd rhan mewn dylunio gwasanaethau a chydgynhyrchu (e.e. ymuno â fforwm defnyddwyr gwasanaethau, helpu i greu deunyddiau hyrwyddo neu ddod yn llysgenhadon cymunedol).
CANOLBWYNTIO AR GANLYNIADAU
• Rydym yn cysylltu ein rhaglenni â nodau strategol eich sefydliad i sicrhau ein bod yn darparu rhaglenni sy’n bodloni anghenion ein comisiynwyr a’u cymunedau.
• Rydym yn creu rhwydweithiau hunangynhaliol o sefydliadau lle mae ein partneriaid a defnyddwyr gwasanaethau’n gweithio mewn ffyrdd amrywiol a hygyrch i dyfu eu cymunedau.
• Rydym yn dod â grwpiau ac unigolion at ei gilydd ac yn creu effaith gymunedol barhaol trwy ddigwyddiadau a gweithgareddau. Rydym yn denu pobl newydd i wirfoddoli ac yn datblygu cysylltiadau cymunedol.
CYSYLLTWCH Â NI
Cysylltwch â thîm Tempo gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl.
SUT MAE'N GWEITHIO
Mae Credydau Amser Tempo yn gwerthfawrogi cyfraniadau pobl. Gall sefydliadau gynnig Credydau Amser Tempo i bobl sy'n rhoi o'u hamser. Gellir cyfnewid Credydau Amser Tempo am ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau gyda'n rhwydwaith o bartneriaid cydnabyddiaeth.
CREDYDAU AMSER TEMPO
Mae ein platfform digidol a hygyrch yn galluogi casglu data amser real, a dadansoddi sut mae pobl yn defnyddio Credydau Amser Tempo, gan roi dealltwriaeth o’r effaith a’r gwerth sy’n cael eu creu gan eich prosiect a’ch gwirfoddolwyr.
CREU GWASANAETHAU A GYDGYNHYRCHWYD A CHEFNOGI DATBLYGU CYMUNEDOL WEDI'I SEILIO AR ASEDAU
Creu gwasanaethau a gydgynhyrchwyd a chefnogi datblygu cymunedol wedi’i seilio ar asedau. Mae Credydau Amser Tempo yn gweithio fel offeryn ar gyfer cydgynhyrchu gan eu bod yn ychwanegu at brofiad, gwybodaeth a galluoedd pobl. Rydym yn galluogi cymunedau a gwasanaethau i ffurfio perthnasoedd ac adfywio’r gymuned ei hun.
EIN RHWYDWAITH CYDNABYDDIAETH CENEDLAETHOL
Ein rhwydwaith cydnabyddiaeth o fwy nag 800 o weithgareddau sy’n tyfu drwy’r amser. Mae ein rhwydwaith o bartneriaid cydnabyddiaeth wedi cynnwys lleoliadau fel Tŵr Llundain, Criced Lord’s, Canolfan y Barbican, Canolfan Mileniwm Cymru, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, y Bathdy Brenhinol, nifer o leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a chyfleusterau hamdden a chelfyddydau lleol ledled y Deyrnas Unedig, i gynnig gweithgareddau ar eich stepen drws. I weld y rhwydwaith llawn sydd ar gael ar hyn o bryd – ewch i timecredits.com
HYFFORDDIANT AC E-DDYSGU
Mae Tempo wedi datblygu gweithdai hyfforddi unigryw, teilwredig a gefnogir gan offer a deunyddiau perthnasol a diddorol sy’n galluogi unigolion, grwpiau a sefydliadau i ddatblygu rhaglenni Credydau Amser Tempo o’r dechrau, gan ganiatáu i chi greu rhaglenni diddorol a fydd yn cadw gwirfoddolwyr.
Ystod o fodiwlau e-ddysgu. Mae’r rhain yn cynnwys modiwlau Sgiliau Sylfaenol a achredwyd gan CPD, a Chyflwyniad i Gredydau Amser Tempo.