DOD YN BARTNER CYDNABYDDIAETH

Mae Credydau Amser Tempo yn dod â chi i gysylltiad â chwsmeriaid ac ymwelwyr newydd.
Gyda'n gilydd, byddwn yn rhoi eich sefydliad wrth wraidd ein cymuned Credydau Amser Tempo.

FFURFLEN GYSWLLT PARTNERIAID CYDNABYDDIAETH

Os oes ganddo chi ddiddordeb mewn dod yn bartner cydnabyddiaeth, cysylltwch gyda ni!
Llenwch y ffurflen isod gyda’ch manylion cyswllt a dipyn o wybodaeth am eich safle ac fe wnaiff aelod o staff Tempo gysylltu gyda chi i drafod.

    PAM DOD YN BARTNER CYDNABYDDIAETH?

    • Mae Credydau Amser Tempo yn cynnig ffordd syml o ddenu cwsmeriaid newydd i’ch sefydliad.

    • Rydym yn darparu data lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ar ein system Credydau Amser Tempo ddigidol i’ch galluogi i optimeiddio taith eich cwsmeriaid gyda’n rhwydwaith.

    • Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol ar waith.  Mae Credydau Amser Tempo yn caniatáu i chi gyfrannu at ddatblygu eich perthynas â chymunedau a chwsmeriaid yn lleol ac yn genedlaethol.

    • Mae 80% o’n Partneriaid Cydnabyddiaeth yn dweud bod Credydau Amser Tempo yn creu sylw cysylltiadau cyhoeddus cadarnhaol yn lleol ac yn genedlaethol.

    • Mae ein partneriaid yn dweud bod Credydau Amser Tempo yn creu’r potensial ar gyfer enillion ar fuddsoddiad ochr yn ochr ag amlygu eu brand.

    • Dangoswch eich bod yn wahanol i’ch cystadleuwyr. Rydym yn galluogi busnesau lleol a chenedlaethol
    i gydnabod y cyfraniad y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud at ein heconomi a’n cymunedau.

     

    EIN RHWYDWAITH CENEDLAETHOL

    • Mae 750+ o bartneriaid cydnabyddiaeth yn ein rhwydwaith.
    • Mae 50,000+ o bobl wedi ennill Credydau Amser Tempo hyd yma.
    • Mae mwy nag 1,000,000 o Gredydau Amser Tempo wedi cael eu hennill ledled y Deyrnas Unedig.

    CYSYLLTWCH Â NI

    Cysylltwch â thîm Tempo gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl.

      SUT MAE'N GWEITHIO

      Mae gwirfoddolwyr yn ennill Credydau Amser Tempo yn gyfnewid am eu hamser. Yna, gallant ddefnyddio eu Credydau Amser Tempo ar weithgareddau gyda chi fel un o'n partneriaid rhestredig.

      1. CYSYLLTWCH Â NI

      Cysylltwch ag aelod o dîm Tempo:
      Ff: 029 2056 6132
      E: hello@wearetempo.org

      2. DYLUNIWCH EICH CYNNIG

      Bydd ein tîm yn eich helpu i benderfynu ar y ffordd orau o ddiffinio’ch cynnig.

      3. CYMERADWYWCH EICH CYNNIG DRAFFT

      Byddwn yn anfon drafft atoch i’w gymeradwyo a byddwn yn sefydlu eich cyfrif ar y platfform digidol.

      4. PECYN CROESO A HYFFORDDIANT

      Byddwn yn darparu’ch hyfforddiant ar-lein ar y platfform digidol ac yn sicrhau bod eich tîm yn barod i fynd a bod ganddynt yr holl wybodaeth y mae arnynt ei hangen.

      5. MYND YN FYW

      Nesaf, byddwn yn hyrwyddo eich cynnig i’r rhwydwaith cyfan. Yna, byddwch yn barod i dderbyn Credydau Amser Tempo a chyfarfod â’ch cwsmeriaid newydd.

      6. CYMORTH PARHAUS

      Byddwch yn cael diweddariadau rheolaidd a chymorth parhaus gan ein tîm rheoli cyfrif a chymorth cwsmeriaid ymroddedig ac arbenigol.