Swyddog Ymgeisio am Grantiau a Chodi Arian

Ynglŷn â Tempo

Menter gymdeithasol uchelgeisiol iawn sy’n tyfu’n gyflym yw Tempo. Mae ein gwaith yn creu cymunedau cryf, cydnerth ac yn rhoi’r offer i bobl wneud newidiadau go iawn a pharhaol i’w bywydau.

Mae Tempo yn gweithio i alluogi mwy o bobl i wirfoddoli yn eu cymunedau, oherwydd bod rhoi o’ch amser a theimlo’n werthfawr yn gwella iechyd, hapusrwydd a rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Rydym yn gwneud hyn gyda Chredydau Amser Tempo, sef un o’r systemau cydnabyddiaeth gymunedol mwyaf yn y byd sydd wedi’i seilio ar amser. Mae pobl yn ennill Credydau Amser Tempo pan fyddant yn rhoi o’u hamser ac maen nhw’n eu defnyddio ar amrywiaeth eang o weithgareddau o’u dewis. Mae dros 56,000 o bobl wedi ennill mwy na 900,000 o Gredydau Amser Tempo hyd yma, ac rydym wedi ffurfio partneriaeth â mwy na 1,500 o sefydliadau cymunedol, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau.

Mae Tempo ar daith 5 mlynedd i ddod yn sefydliad cenedlaethol, gan alluogi pobl o unrhyw gymuned i ymwneud â Chredydau Amser Tempo, ymuno â’u cymuned a manteisio ar gyfleoedd newydd. Erbyn 2023, gobeithiwn fod wedi cyrraedd 250,000 o bobl ledled Cymru a Lloegr a gweld 2.5m o Gredydau Amser Tempo yn cael eu hennill a’u defnyddio.

Amdanoch Chi

Mae gan Gredydau Amser Tempo gynlluniau uchelgeisiol a chyffrous i wireddu ein gweledigaeth, ac mae’r tîm Datblygu Busnes a Chredydau Amser Digidol yn gyfrifol am sicrhau bod gennym yr arian sy’n angenrheidiol i gyflawni ein nodau. Bydd y Swyddog Grantiau a Chodi Arian yn uniongyrchol gyfrifol am ddatblygu llif cyson o ddarpar gyllidwyr a chynhyrchu incwm newydd o ymddiriedolaethau, sefydliadau a chyrff statudol, ar yr un pryd â rheoli a chynyddu portffolio o berthnasoedd grant i’r eithaf a datblygu proffil Credydau Amser Tempo a’n partneriaid trwy geisiadau i sefydliadau dyfarnu perthnasol.

Byddwch yn frwd ynglÅ·n â datblygu cymunedau a chreu newid cymdeithasol cadarnhaol, parhaol. Byddai’r rôl hon yn addas i godwr arian profiadol sydd â hanes blaenorol cryf o wneud ceisiadau llwyddiannus i ymddiriedolaethau elusennol, sefydliadau a chyrff statudol, a rhywun sydd â’r proffesiynoldeb, yr egni, y creadigrwydd a’r cymhelliad i chwilio am gyfleoedd cyllido a manteisio arnynt i’r eithaf. Nid oes arnoch angen profiad o godi arian i’r sector gwirfoddoli o reidrwydd, ond mae angen i chi allu mynd i’r afael yn gyflym â meysydd gwaith allweddol Tempo a’r effaith rydym yn ceisio ei chyflawni, a gallu cyfleu hyn i roddwyr mewn ffordd hygyrch, gywir a chymhellol.

Rydym yn dîm bach a chlòs, felly bydd angen i chi fod yn hunangynhaliol a gallu cyfrannu’n effeithiol at dîm. Byddwch yn cydweithio’n rheolaidd â phobl o bob rhan o Tempo, o reolwyr contractau i’r tîm cyllid a’r tîm gweithrediadau. Byddwch yn gyfathrebwr rhagorol sy’n frwd am godi arian, a byddwch yn barod i dorchi llewys i fynd i’r afael â phob math o dasgau, mawr neu fach, i sicrhau bod Tempo yn y sefyllfa orau posibl i barhau i gael effaith mewn cymunedau yn y Deyrnas Unedig.

Cyfeiriwch at y swydd-ddisgrifiad a manyleb yr unigolyn i weld rhestr gynhwysfawr o brif ddyletswyddau a gofynion y rôl.

Gweithio yn Tempo

Rydym yn falch o fod yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac rydym yn cynnig mwy na’r lleiafswm cyflog statudol i holl aelodau ein tîm. Yn ogystal, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o fuddion i staff, gan gynnwys:

  • 33 diwrnod o wyliau, gan gynnwys gwyliau banc
  • Cynllun Pensiwn Cyfrannol (cyfraniad cyflogwr o hyd at 5%)
  • Rhaglen Cymorth i Gyflogeion sydd ar gael 24/7
  • Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd
  • Cynllun Oriau Hyblyg (sy’n cynnig hyd at 13 diwrnod o absenoldeb hyblyg bob blwyddyn)
  • Canolfan Les sy’n cynnig yr erthyglau, y newyddion a’r cyngor diweddaraf ynglÅ·n â lles
  • Cynllun Beicio i’r Gwaith
  • Cynllun Arian Parod Gofal Iechyd – gallwch hawlio arian yn ôl ar gostau gofal iechyd hanfodol.
  • Gostyngiadau Siopa – ar-lein ac mewn siopau gyda mwy nag 850 o fanwerthwyr yn amrywio o fwydydd i gynhyrchion iechyd da, teithio a mwy
  • SmartTech™ – gallwch gael y dechnoleg ddiweddaraf am y pris gorau a gwasgaru’r taliadau ar draws eich cyflog, yn ddi-log.
  • Grant Marwolaeth yn y Swydd – 1 flynedd

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5yh ar 31 Mawrth. Rydym yn cadw’r hawl i gau’r cyfnod ymgeisio’n gynnar.

Cynhelir cyfweliadau trwy Microsoft Teams. Peidiwch ag ymgeisio os nad yw’r dyddiad cyfweld hwn yn gyfleus i chi.

Sut i Ymgeisio:

Os ydych yn credu bod y rôl hon yn addas i chi, edrychwch ar ein pecyn ymgeiswyr yn gyntaf a fydd yn eich helpu i benderfynu a ydym yn gweddu i chi. Yna, gofynnwn i chi gyflwyno’ch C.V. cyfredol gyda llythyr eglurhaol manwl sy’n dweud wrthym sut rydych yn bodloni ein cymwyseddau a pham rydych eisiau gweithio i Gredydau Amser Tempo. Llenwch ein Ffurflen Gwybodaeth am Gydraddoldeb ac Amrywiaeth hefyd, os gwelwch chi’n dda.

Edrychwch ar ein Pecyn Ymgeiswyr

Edrychwch ar y Swydd-ddisgrifiad / Manyleb yr Unigolyn

Lawrlwythwch ein Ffurflen Gwybodaeth am Gydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Anfonwch eich cais wedi’i gwblhau at recruitment@wearetempo.org gan roi teitl y swydd a’ch enw fel pennawd, erbyn 5yh ar 31 Mawrth 2021 fan bellaf.

Yn rhan o’n hymrwymiad i’r cynllun Hyderus o ran Anabledd, bydd ymgeiswyr sy’n ystyried eu hunain yn anabl yn cael cyfle i gael cyfweliad os ydynt yn bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl. Trwy optio i mewn i’r cynllun hwn, rydych yn datgelu bod gennych anabledd at ddiben y warant hon i gael cyfweliad yn unig, ac ni fyddwn yn tybio nac yn casglu eich bod yn dymuno datgelu neu gofnodi eich anabledd mewn unrhyw ffordd arall – gan gynnwys unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod arnoch eu hangen os cewch eich cyflogi.

Bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Credwn yn gryf mewn buddion gweithlu amrywiol a chynhwysol ac anogwn geisiadau o bob rhan o’r gymuned.