CYMERWCH RAN

I weld cynigion diweddaraf Credydau Amser Tempo, ewch i www.tempotimecredits.org/activities.

GWIRFODDOLWYR

Eisiau gwirfoddoli a dechrau ennill Credydau Amser?

PARTNERIAID CYDNABYDDIAETH

Eisiau ymuno â’n Rhwydwaith Partneriaid Cydnabyddiaeth Credydau Amser Tempo?

ambassador4

CYSYLLTWCH Â NI

Am ymholiadau ynghlŷn â gwerhiant ac am ymuno, gadewch neges yma. Os ydych yn fudiad, bartner neu wirfoddolwr yn barod, gadewch neges ar y teclyn “Help” isod.

    BETH YW TEMPO?

    participate

    PWY YDYM NI

    Elusen yw Credydau Amser Tempo. Rydym ni a’n gwirfoddolwyr yn ceisio cyflawni ein nodau a’n hamcanion elusennol ym mhopeth a wnawn. Rydym yn gwasanaethu cymunedau’r Deyrnas Unedig ac yn cydnabod gwaith gwerthfawr gwirfoddolwyr.

    Rydym yn creu rhwydweithiau lleol a chenedlaethol o sefydliadau, gan ddod â phobl ynghyd yn eu cymunedau lleol i wneud gwaith gwirfoddol gwerthfawr a phwysig.

    Mae ein cymunedau’n gwneud hyn trwy wirfoddoli. Mae gwirfoddolwyr yn cael cydnabyddiaeth trwy ennill Credydau Amser Tempo ac yn eu defnyddio gydag ystod o bartneriaid cydnabyddiaeth lleol a chenedlaethol.

    Rydym yn gweithio gydag ystod o sefydliadau i hwyluso twf a datblygiad ein grwpiau cymunedol a’n partneriaid. Rydym yn galluogi gwirfoddolwyr i ddod o hyd i gyfleoedd newydd a chael cydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr.

    Mae Credydau Amser Tempo yn helpu i ddatblygu ein cymunedau lleol trwy weithio gydag asiantaethau cyllido a sefydliadau comisiynu, mewn model cydgynhyrchu. Gyda’n gilydd, rydym yn sefydlu, datblygu ac addysgu modelau twf a chynaliadwyedd.

    Rydym yn datblygu cymunedau, gyda chymunedau ac ar gyfer cymunedau. Dim ond gyda gwirfoddolwyr gwerthfawr ac ymroddedig y mae hyn yn bosibl.

    Rydym yn defnyddio Credydau Amser Tempo i gydnabod cyfraniad gwerthfawr pawb yn ein cymunedau. Mae Credydau Amser Tempo ar gael i bawb sydd eisiau gwneud gwahaniaeth a helpu eu cymuned.

    vision

    EIN GWELEDIGAETH

    Mae Credydau Amser Tempo yn bodoli i greu byd lle mae cymunedau’n datblygu eu hunain trwy alluogi mwy o unigolion a grwpiau mwy amrywiol o bobl i wirfoddoli a chefnogi eu cymunedau lleol. Rydym yn ceisio datblygu cymunedau lle mae gwaith gyda thâl a gwaith gwirfoddol yn cael eu trin â’r un parch.

    whatare

    BETH YW CREDYDAU

    AMSER TEMPO?

    Cynigir Credydau Amser Tempo i wirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaethau gwerthfawr i gydnabod eu cyfraniad pwysig.

    Mae Credydau Amser Tempo yn gwerthfawrogi cyfraniadau pobl. Gall sefydliadau gynnig Credydau Amser Tempo i bobl sy’n rhoi o’u hamser. Gellir cyfnewid Credydau Amser Tempo am ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau gyda’n rhwydwaith o bartneriaid cydnabyddiaeth.

    TEMPO YDYM NI Os ydych yn wirfoddolwr neu’n sefydliad, gadewch i ni roi mwy o wybodaeth i chi am yr amryw ffyrdd y gall Tempo fod o fudd i chi. SUT MAE'N GWEITHIO GWIRFODDOLWYR

    SUT MAE'N GWEITHIO

    Mae’r syniad yn un syml: Gall pobl ennill Credydau Amser Tempo pan fyddant yn gwirfoddoli gydag elusen neu grŵp cymunedol sy’n rhan o rwydwaith Tempo, ac yna gallant ddefnyddio eu Credydau Amser Tempo ar ystod eang o weithgareddau, cynhyrchion a gwasanaethau o’u dewis. Darperir y gweithgareddau hyn gan ein rhwydwaith cenedlaethol o bartneriaid cydnabyddiaeth ac maen nhw’n hanfodol i sicrhau bod y gwirfoddolwyr yn cael eu cydnabod am y gwaith amhrisiadwy maen nhw’n ei wneud.

    ENILLWCH GREDYDAU AMSER TEMPO

    Gallwch ennill Credydau Amser Tempo trwy gefnogi grwpiau, gwasanaethau a sefydliadau cofrestredig trwy wirfoddoli eich amser, eich sgiliau a'ch doniau unigryw.

    Mae digonedd o gyfleoedd i roi cynnig ar rywbeth newydd, ailgydio mewn hen ddiddordebau a thretio’ch hun a/neu’ch teulu/ffrindiau gyda’r amrywiaeth eang o bartneriaid cydnabyddiaeth.

    Pan fyddwch wedi ennill eich Credydau Amser Tempo, gallwch fanteisio ar ein rhwydwaith cydnabyddiaeth unigryw. Gallwch ddewis o blith cannoedd o gyfleoedd cydnabyddiaeth a dod o hyd i’r opsiynau defnyddio diweddaraf, gan gynnwys rhai gyda’n partneriaid cydnabyddiaeth cenedlaethol.

    ARCHWILIWCH A DYSGWCH

    Mae Tempo yn darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu cynhwysfawr i’n sefydliadau sy’n cymryd rhan. Trwy ein platfform e-ddysgu, caiff sefydliadau sy’n cymryd rhan eu harwain trwy daith Credydau Amser Tempo, gan eich cynorthwyo i ddefnyddio’r model mor effeithiol a llwyddiannus â phosibl.

    Mae gennym hefyd amrywiaeth o fodiwlau e-ddysgu sy’n helpu sefydliadau ac unigolion i ddatblygu.

    Yn ogystal ag e-ddysgu, rydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a fforymau ar-lein i rannu arfer gorau a dysgu gan eraill yn y rhwydwaith.

    Mae ein hyfforddiant ar-lein yn cynnwys Diogelu, Darparu o Bell, Iechyd a Diogelwch, Rheoli Pobl, Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gyffredinol, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Iechyd a Lles a llawer mwy!

    YMUNWCH Â MUDIAD TEMPO

    RHAI O'N PARTNERIAID LLEOL A CHENEDLAETHOL

    EFFAITH

    Mae ein gwaith arobryn wedi cael ei gefnogi gan yr Adran Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), y Sefydliad Economeg Newydd a Phrifysgol Caergrawnt.

    Mae ein heffaith yn cyrraedd unigolion a chymunedau –
    gallwch ddysgu mwy amdani trwy’r adroddiadau canlynol:

    RHAGLENNI WEDI'U TEILWRA

    YN SEILIEDIG AR EICH BLAENORIAETHAU A'CH AMCANION LLEOL